Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn buddsoddi £1.5 miliwn pellach i ddatblygiad Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid datblygu o’r sector preifat, gan gynnwys Ion Development, i drawsnewid y safle yn gymysgedd bywiog o leoedd manwerthu, bwyd a diod, marchnad gyfoes, swyddfeydd ac ardaloedd preswyl tra’n gwella hygyrchedd o lan y môr a’r promenâd i ganol y dref.

Bydd y gwaith adeiladau yn cael ei rannu i gamau, bydd y cam cyntaf yn cynnwys dymchwel a datblygu’r farchnad a’r neuadd fwyd.

Mae’r cynlluniau, sy’n cynnwys cyn Westy'r Savoy ac adeiladau Marchnad y Frenhines, yn rhan o ddogfen weledigaeth y Cyngor ar gyfer y Rhyl a fydd yn creu tref glan môr modern, nodedig, sy’n diwallu anghenion ei chymuned, ac yn rhoi rheswm i bobl o’r Rhyl a thu hwnt ymweld â hi.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Bydd cyllid cyfalaf ychwanegol Sir Ddinbych yn ein galluogi i symud ymlaen â’r gwaith dymchwel, sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer y safle cyfan a chlirio’r safle yn barod i ddechrau datblygu’r cam cyntaf a’r camau dilynol.

“Mae’r cynllun yn cynnig ateb sy’n canolbwyntio ar y farchnad ac yn mynd i’r afael â gofynion economaidd y dref a’r rhanbarth. Mewn byd ar ôl Covid-19, bydd marchnad sy’n cynnig cyfle risg isel, cyfalaf isel ar gyfer entrepreneuriaid yn fudd enfawr.

“Bydd yn cynnig cyfleusterau newydd gwych i breswylwyr lleol ac yn helpu i ddenu ymwelwyr newydd i’r Rhyl. Gyda ffocws ar fwyd lleol, mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i fusnesau ar draws Sir Ddinbych a’r rhanbarth ehangach elwa o’r datblygiad.

Mae proses cyn-ymgeisio wedi’i lansio ar gyfer y datblygiad, a gall unrhyw un sy’n dymuno lleisio eu barn am y cynlluniau ymweld ag https://iondevelopments.co.uk/rhyl-consultation/ a chyflwyno sylwadau drwy planning.consultation@cushwake.com erbyn dydd Iau, 15 Hydref.


Cyhoeddwyd ar: 24 Medi 2020