Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Yn dilyn ymarfer caffael dwys mae’r contractwr ar gyfer cam cyntaf ehangu Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych wedi ei gyhoeddi.

Jones Bros Civil Engineering UK sydd wedi ei ddewis fel y contractwr ar gyfer gwaith galluogi i hwyluso datblygu depo gwastraff canolog newydd Cyngor Sir Ddinbych ac ehangu'r Ystâd Ddiwydiannol ymhellach ar ran y pedwar busnes sydd ar y safle ar hyn o bryd sef Yard Space (Wales) Ltd, Becws Henllan, Lock Stock Storage ac Emyr Evans.

Mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio gyda’r busnesau hyn sy’n ehangu eu safleoedd presennol ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar y cam cyntaf hwn yn ystod yr haf.

Fe fydd y gwaith yn cynnwys gwaith cloddio, gosod draeniau, cyfleustodau a mynediad, gan gynnwys gwelliannau i Ffordd y Graig.

Fe fydd depo gwastraff canolog newydd y Cyngor yn cefnogi gosod gwasanaeth ailgylchu wythnosol newydd, yn ogystal â chasgliad gwastraff gweddilliol bob pedair wythnos, yn ystod 2023, a fydd yn helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu ar draws y sir.

Dywedodd y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd y Cyngor: “Fe fydd y depo gwastraff canolog newydd hwn yn cyfrannu’n sylweddol at ddyheadau amgylcheddol y Cyngor gan y byddwn yn defnyddio llai o danwydd, yn ailgylchu mwy o wastraff ac yn cynhyrchu deunydd ailgylchu o ansawdd uwch sy’n addas i'w ddefnyddio yn niwydiant gweithgynhyrchu y DU.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Jones Bros ar gam cyntaf y gwaith a fydd yn helpu i baratoi’r safle ar gyfer y cam adeiladu.”

Dywedodd Geraint Lloyd, rheolwr prosiect yn Jones Bros, cwmni sydd wedi ei leoli yn Rhuthun: “Rydym yn llawn cyffro o fod yn dechrau gweithio ar gynllun pwysig yn ein sir.

“Pan fydd y gwaith yn ei anterth fe fydd gennym ni 30 o weithwyr Jones Bros ar y safle, gan gynnwys nifer o brentisiaid a gweithwyr dan hyfforddiant.

“Fe fyddwn yn cydgysylltu yn agos gyda'r holl fusnesau ar yr ystâd ddiwydiannol er mwyn sicrhau'r amhariad lleiaf posibl.”


Cyhoeddwyd ar: 01 Gorffennaf 2021