Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae teuluoedd ledled y wlad wedi eu taro’n galed gan effaith y pandemig

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae teuluoedd ledled y wlad wedi eu taro’n galed gan effaith y pandemig.

Gan nad oedd pobl yn gallu gweld eu hanwyliaid, ysgolion ar gau a diffyg cefnogaeth, mae cymunedau ar draws Cymru wedi canfod ffyrdd eraill o gefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnodau heriol hyn. Mae hyn yn sicr yn wir ar gyfer teuluoedd sy’n maethu.

Mae nifer wedi defnyddio’r cyfnod anodd hwn fel cyfle i greu ‘normal newydd’ mwy cadarnhaol - nid yn unig yn eu bywydau ond ym mywydau plant lleol. Yn ôl Maethu Cymru, mae dros 350 o deuluoedd yng Nghymru wedi dechrau maethu gyda’u hawdurdod lleol yn ystod y pandemig Covid-19.

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth (9-22 Mai), mae Maethu Cymru eisiau dathlu’r gwahaniaeth mae gofalwyr maeth wedi ei wneud i fywydau plant yng Nghyngor Sir Ddinbych. O ofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros nifer o flynyddoedd i’r rhai sy’n cychwyn ar eu siwrnai maethu i helpu i roi gwell dyfodol i blant.

Pythefnos Maethu yw ymgyrch codi ymwybyddiaeth o faethu mwyaf y DU a ddarperir gan elusen faethu flaenllaw, Y Rhwydwaith Maethu. Thema eleni yw ‘cymunedau maethu’ a bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ymroddiad ac angerdd gofalwyr maeth.

Mae’n gobeithio amlygu’r amrywiol ffyrdd mae pobl yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod y pandemig Covid 19 - ac i godi ymwybyddiaeth o’r angen ar gyfer mwy o ofalwyr maeth ymroddgar.

Dywedodd Rhiain Morrlle – Pennaeth Gwasanaethau Plant: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf yn sicr wedi bod yn heriol ond rydym wedi gweld cymaint o drugaredd ac anhunanoldeb gan ein gofalwyr maeth yn Sir Ddinbych a ledled Cymru, sydd wedi agor eu drysau i blant a rhoi lle diogel iddynt yn ystod pandemig Covid pan roedd gweddill y wlad yn ei chael yn anodd cael hyd yn oed gweld eu teuluoedd.”

“Mae maethu wedi gorfod addasu i’r amgylchiadau rhyfedd roedd pawb yn eu hwynebu a bu i’n gofalwyr maeth wir fynd amdani a darparu gofal a chefnogaeth ragorol i blant a theuluoedd oedd eu hangen, ac rydym eisiau dweud diolch o galon a chyfleu ein gwerthfawrogiad am bopeth a wnaed ganddynt.”

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn un o 22 tîm Awdurdod Lleol yng Nghymru, yn cydweithio fel Maethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw.

Mae Maethu Cymru eisiau annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth ar gyfer eu hawdurdod lleol er mwyn i blant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a’u teulu ac aros yn eu hysgol. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu synnwyr o hunaniaeth yn ystod amser cythryblus.

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol:

“Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli mai eich awdurdod lleol, eich cyngor lleol, sy’n cymryd plant pan fo’u teulu yn cael anawsterau neu pan fo plant yn byw mewn sefyllfaoedd ble mae camdriniaeth ac esgeulustod, a’ch awdurdod lleol sy’n dod o hyd i le diogel iddynt ac sy’n gyfrifol amdanynt.

“Mae cyfoeth o wybodaeth yn nhîm maethu awdurdod lleol Maethu Cymru a gweithwyr cymdeithasol ymroddedig sy’n cydweithio gyda theuluoedd lleol ac ysgolion lleol i greu gwell dyfodol ar gyfer plant lleol.

“Trwy faethu yn lleol rydych yn helpu plant i aros yn eu cymuned, gyda’r amgylchedd, acen, ysgol, iaith, ffrindiau a gweithgareddau sy’n gyfarwydd iddynt. Mae’n golygu eu bod nhw’n teimlo’n rhan o rywbeth ac yn datblygu sefydlogrwydd a hyder.

“Byddem yn annog pobl nid yn unig i faethu ond i faethu gyda’u hawdurdod lleol, sy’n rhan o Maethu Cymru, sefydliad dielw sy’n gyfrifol am y plant yn ein gofal.”

I wybod sut y gallwch faethu yn Sir Ddinbych ewch i : https://denbighshire.fosterwales.gov.wales/cy/cartref.aspx

 


Cyhoeddwyd ar: 09 Mai 2022