Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn adolygu’r holl waith arolygu a wnaed hyd yma ar y mater Concrit Aerwydedig Aeradwyn Atgyfnerthedig (RAAC) ers iddo ddod i’r amlwg gyntaf yn 2019/20. Yn dilyn adolygiad o’r wybodaeth gychwynnol yn yr adroddiadau yma, penderfynwyd bod angen arolwg ac archwiliad pellach ar safle Ysgol Trefnant yn unig.

Ar sail hyn, bu syrfëwr RAAC ar safle Ysgol Trefnant ac wedi archwiliad pellach mae wedi cadarnhau bod rhannau o do fflat y safle wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio planciau RAAC.

Fodd bynnag, mae'r syrfëwr wedi adrodd bod y planciau yma’n ymddangos yn sefydlog ac mewn cyflwr derbyniol.

Ar ddiwedd y diwrnod ysgol heddiw (Dydd Iau 14eg Medi), er lles a diogelwch y staff a’r disgyblion, mae’r awdurdod lleol wedi gwneud y penderfyniad i gau adeilad yr ysgol am weddill yr wythnos (dydd Gwener 15fed Medi) er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach.

Mae hwn yn fesur rhagofalus ac er bod y risg ar hyn o bryd yn isel iawn, drwy gau’r adeilad, bydd yn caniatáu’r amser a’r lle angenrheidiol i gynnal ymchwiliadau pellach, ac yn caniatáu i unrhyw fesurau dros dro cael eu gosod ar unwaith os oes angen.

Bydd y Cyngor yn cyfathrebu ymhellach gyda staff a rhieni yn y man.


Cyhoeddwyd ar: 14 Medi 2023