Ymwelodd yr Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant AS â Marchnad y Frenhines sydd newydd agor yn y Rhyl, ddydd Mawrth (5 o Awst).
Fe’i croesawyd gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan, ac fe fwynhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet daith o’r cyfleuster mis oed, yng nghwmni Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio, y Cynghorydd Alan James, AS dros Fro Clwyd, Gareth Davies a Rheolwyr Rhaglen ar gyfer y prosiect.
Yn ogystal â chael taith o amgylch y gofodau marchnad a’r gofod digwyddiadau, cwrddodd yr Ysgrifennydd Cabinet gyda’r stondinwyr sy’n gweithio yn y gofod eiconig a Chyfarwyddwyr Rheoli o’r cwmni sy’n gweithredu’r cyfleuster.
Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys 16 o unedau bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr a gofod digwyddiadau mawr. Mae’r ardal tu allan i’r farchnad yn cynnwys decin wedi’i godi a’i orchuddio sy’n rhoi lle i ymwelwyr fwyta tu allan. Mae’r gofod digwyddiadau mawr wedi cynnal nifer o gyngherddau a sioeau poblogaidd iawn ers agor mis diwethaf.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:
“Rwy’n falch o fod yn ôl yn y Rhyl a gweld Marchnad y Frenhines drosof fy hun, un o safleoedd allweddol yn y gwaith ailddatblygu canol tref y Rhyl, a phrosiect sydd wedi elwa o tua £6.5 miliwn o gymorth trwy Gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Gan gynnig amrywiaeth o fanwerthwyr a mannau bwys, ardal ddigwyddiadau a gofod bwyta tu allan, bydd y gofod newydd hwn yn creu swyddi, denu ymwelwyr a rhoi bywyd newydd i ganol y dref.”
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor:
“Mae’r cyfleuster anhygoel hwn wedi bod ar agor ers bron i fis bellach, ac rydym yn hynod o falch o’r ffordd mae’r wythnosau cyntaf wedi mynd. Dyma un o’r prosiectau allweddol o ran ymdrechion i adfywio’r Rhyl.
Mae’r farchnad yn llawn stondinwyr dawnus, ansawdd uchel, sydd wedi creu amgylchedd cymunedol cydweithredol yma. Mae adloniant poblogaidd wedi cael eu cynnal yn y gofod digwyddiadau, ac mae adborth y gymuned am y gofod marchnad wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Mae’r lleoliad wedi bod yn hynod o brysur ers i’r drysau agor fis diwethaf, ac rwy’n hynod o falch o’r cynnig modern o ansawdd uchel y mae’r lleoliad yn ei gynnig i bobl y Rhyl a thu hwnt. Rwy’n falch o weld y prosiect yn gweithredu ar ôl cyfnod agor llwyddiannus iawn. Mae dros 120 mlynedd o hanes yn y safle hwn, ac mae’n wych gweld y bennod ddiweddaraf yn dechrau.”
Mae prosiect Marchnad y Frenhines wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf trwy ei Raglen Trawsnewid Trefi.
Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae hefyd wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU trwy’r Rhaglen Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Ariennir y prosiect hefyd gan Gyngor Sir Ddinbych.
Yn ogystal ag ariannu adeilad y farchnad newydd, mae’r cyllid hwn wedi helpu’r Cyngor i gaffael safle Adeiladau’r Frenhines gyfan, dymchwel yr adeiladau presennol a oedd wedi adfeilio ac yn anniogel, ac adeiladu Marchnad y Frenhines newydd sef cam cyntaf datblygu’r safle eiconig ar y promenâd.