Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Fel rhan o’r ymdrech i fynd i’r afael â phwysau ariannol, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gofyn i wasanaethau ar draws y Sir nodi a chynnig arbedion posibl.

Bydd gan y Cyngor ddiffyg ariannol yn ystod y flwyddyn ariannol i ddod ac fel Awdurdodau Lleol ledled Cymru, bydd angen dod o hyd i arbedion sylweddol i sicrhau y gall barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

Mae'r Cyngor yn cynnig cwtogiad penodol i'r Gwasanaeth Llyfrgell / Siop Un Alwad i helpu i lenwi'r bwlch ariannu hwn. Y cynnig a gyflwynir yw gostyngiad o 50% mewn oriau agor ar draws Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych. Bydd pob Llyfrgell yn parhau i fod yn rhannol agored fel y gall gwasanaethau barhau i fod ar gael i drigolion, er ar gyfradd is. Mae hefyd cynigion i leihau elfennau eraill o’r gwasanaeth, e.e. Gwasanaeth Llyfrgell Cartref.

Nod y cynigion yw sicrhau bod mynediad i lyfrgell ar gael yn ddaearyddol ar draws y Sir bob diwrnod o'r wythnos. Felly, bydd llyfrgelloedd sy’n weddol agos at ei gilydd, sef Rhuthun a Dinbych, Llangollen a Chorwen, Llanelwy a Rhuddlan, a Phrestatyn a’r Rhyl, yn ategu gwasanaeth ei gilydd drwy sicrhau bod un ar agor am o leiaf ran o bob diwrnod.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Cabinet dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio’n galed i adeiladu gwasanaeth cynhwysfawr, ac mae’r Cyngor yn hynod siomedig nad yw’n gallu parhau â’r gwasanaeth hwn yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, dyma’r realiti economaidd sy’n effeithio ar bob awdurdod lleol ar hyn o bryd.

“Yn anffodus, bydd y model hwn yn cael effaith ar staff Llyfrgelloedd ar draws y gwasanaeth a bydd y Cyngor yn cyfarfod â staff ac Undebau Llafur i ymgynghori’n llawn ar y cynigion hyn.

“Nod y model a gyflwynwyd yw cyflwyno gwasanaeth teg a chyfiawn ar draws y Sir. Drwy sicrhau bod pob llyfrgell yn parhau i fod ar agor i ryw raddau, mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd yn gallu dychwelyd i wasanaeth llawn yn y dyfodol pan fydd yr hinsawdd economaidd yn fwy ffafriol.”

Bydd ymgynghoriad ar y cynigion o ddydd Mawrth, 3 Hydref ac fe fydd yn rhedeg tan ddydd Llun, 30 Hydref. Gall aelodau’r cyhoedd fynegi barn naill ai trwy borth ymgynghori’r Cyngor, Sgwrs y Sir ar https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/755, neu gallant gyflwyno ymatebion copi caled mewn unrhyw Lyfrgell a reolir gan Sir Ddinbych.


Cyhoeddwyd ar: 03 Hydref 2023