Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi’r gorau i weithredu’r gwasanaeth ailgylchu ym Mhafiliwn Llangollen ar unwaith. Mae'r gwasanaeth dros dro hwn wedi bod yn rhedeg bob 2il a 4ydd dydd Sadwrn o bob mis i alluogi trigolion i gael gwared ar ailgylchu, gwastraff na ellir ei ailgylchu, a gwastraff gardd. Gall preswylwyr nawr archebu lle i ymweld ag unrhyw un o’r Canolfannau Ailgylchu yn Sir Ddinbych a Chonwy ac mae gwasanaeth ychwanegol yn benodol i gynorthwyo trigolion o Langollen a’r cyffiniau yng Nghanolfan Ailgylchu Plas Madoc yn Wrecsam. Mae'r safle hwn yn fwy cyfleus i drigolion Llangollen ac mae apwyntiadau ar gael saith diwrnod yr wythnos.

Gall preswylwyr drefnu apwyntiad i ymweld â chanolfan ailgylchu drwy ein gwefan, neu drwy ffonio ar 01824 706000.

Mae wedi bod yn fwriad erioed i roi'r gorau i weithredu’r gwasanaeth yma yn y Pafiliwn yn Llangollen unwaith y byddai'r cytundeb yn ei le i drigolion ddefnyddio safle Plas Madoc. Mae'r Cyngor wedi cadw'r gwasanaeth dydd Sadwrn yn ei le fel mesur dros dro tymor byr i sicrhau bod y trefniant gyda Phlas Madoc yn gweithio.

Mae unrhyw un sydd wedi neilltuo lle i ddefnyddio’r gwasanaeth dydd Sadwrn ym Mhafiliwn Llangollen wedi cael gwybod y bydd angen iddynt wneud trefniadau eraill.


Cyhoeddwyd ar: 16 Awst 2024