Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

David Baker

Mae prosiect ffotograffiaeth newydd pwerus yn peintio darlun o newid yn y Rhyl, gyda lleisiau trigolion wrth wraidd gweledigaeth ar gyfer dyfodol y dref.

Mae'r ffotograffydd, David Baker, a aned yn y Rhyl wedi lansio prosiect cymunedol uchelgeisiol a gynlluniwyd i ddal gwir ysbryd ei dref enedigol.

Nod y fenter yw taflu goleuni ar fywydau lleol, heriau a gobeithion wrth i'r dref gychwyn ar raglen adfywio 10 mlynedd gwerth £20 miliwn.

Dioddefodd David anafiadau a newidiodd ei fywyd mewn gwrthdrawiad beicio yn 2016, wnaeth achosi niwed i'w ymennydd, colli cof a phroblemau cydbwysedd iddo.

Yn ystod y broses o wella, fe hyfforddodd mewn ffotograffiaeth ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Bournemouth, gan arbenigo mewn gwaith masnachol cyn canolbwyntio ar waith â phwrpas cymdeithasol cryf.

“Rhoddodd ffotograffiaeth ail gyfle i mi, oherwydd ar ôl y ddamwain roedd yn rhaid i mi ailfeddwl am bopeth,” meddai David.

“Roedd dychwelyd i’m tref enedigol ar gyfer y prosiect hwn yn teimlo’n gam naturiol. Mae cymaint o bethau negyddol yn cael eu dweud am y Rhyl, ond rwy’n gwybod faint o ddaioni sydd yma. Fy nod yw rhoi llais gweladwy i drigolion - i wrando a dangos eu profiadau mewn ffordd sy’n wirioneddol bwysig.”

Ers dechrau'r prosiect yng Nghanolfan Gymunedol y Foryd, mae David eisoes wedi tynnu mwy na 250 o bortreadau, gan anelu at gyrraedd cyfanswm o 721.

Gofynnir tri chwestiwn i bawb: beth sy'n dda am y Rhyl, beth sy'n ddrwg, a beth allai fod yn well?

Mae'r ymatebion wedi bod yn onest, yn galonogol, ac yn aml yn syndod, gan gyfuno atgofion melys gyda syniadau ymarferol ar gyfer dyfodol y dref.

O alw am fwy o seddi a chyfleusterau cymunedol gwell, i fyfyrdodau ar ddiweithdra a gwydnwch teuluoedd lleol, mae'r delweddau a'r tystiolaeth yn cynnig persbectif llawr gwlad o’r Rhyl heddiw.

O Hydref 6, bydd yn ehangu'r prosiect gydag wythnos o sesiynau portreadu ym Marchnad y Frenhines, i’w gwneud hi'n haws i drigolion o bob cwr o'r dref gymryd rhan. Yn y pen draw, bydd y portreadau'n sail i arddangosfa gyhoeddus yn Stiwdios Wicked Wales yn Marsh Road, gyda'r potensial i deithio o amgylch lleoliadau eraill yn y dref glan môr.

Dywedodd Cyfarwyddwr Wicked Wales, Rhiannon Wyn Hughes MBE, aelod o Fwrdd Cymdogaeth y Rhyl: “Mae hwn yn brosiect anhygoel ac angenrheidiol iawn.

“Mae’r hyn y mae David yn ei wneud yn tynnu sylw at y frwydr y mae pobl yn ei hwynebu a’r cyfleoedd anhygoel sy’n bodoli pan glywir eu lleisiau’n iawn.

“Mae’r gwaith hwn yn mynd yn syth at galon y strategaeth adfywio, gan lunio syniadau a gwneud gwahaniaeth lle mae’n bwysicaf, sef yn y gymuned.”

Mae David yn mynnu nad yw’r portffolio hwn yn ymwneud â meddwl am broblemau, ond yn ymwneud â chyflwyno golwg onest o’r gymuned: “Nid yw’n ymwneud â negyddiaeth. Mae’n ymwneud â gobaith, gwydnwch, a syniadau ar gyfer y dyfodol. Mae’r Rhyl yn llawn cymeriad a dygnwch - mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chipio hynny a sicrhau bod gwneuthurwyr penderfyniadau yn deall lleisiau go iawn y bobl.”

Gyda chefnogaeth gan Fwrdd Cymdogaeth y Rhyl, Wicked Wales, ac elusennau lleol gan gynnwys Brighter Futures, mae’r fenter ar fin dod yn gonglfaen i ymgysylltiad cymunedol drwy gydol adfywio’r dref.

Am ragor o wybodaeth am Ein Rhyl/Our Rhyl ewch i sirddinbych.gov.uk/bwrdd-cymdogaeth-y-rhyl (Cymraeg), a dilynwch @einrhyl a @ourrhyl ar Instagram, LinkedIn a TikTok.


Cyhoeddwyd ar: 18 Medi 2025