Mae unigolion ar draws Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ddydd Mercher, 10 Medi, o 10am tan 2pm ym Mar a Bwyty 1891, Pafiliwn y Rhyl.
Wedi’i chynnal mewn partneriaeth â’r Ganolfan Byd Gwaith, mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn dod ag amrywiaeth o gyflogwyr lleol a chenedlaethol ynghyd – a phob un yn recriwtio i swyddi gweigion mewn sectorau amrywiol. Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad diwethaf yn y gwanwyn, a ddenodd dros 50 o gyflogwyr, mae’r ffair ym mis Medi yn mynd i fod yn fwy ac yn well byth.
Mae’r cyflogwyr sydd wedi cadarnhau yn cynnwys y Lluoedd Arfog, Shotton Mill, Warner Hotels, Clwyd Alyn, Leader Optic a Kids Planet, a fydd yn cynnig rolau lletygarwch, gofal, gweithgynhyrchu, addysg a mwy.
Bydd yna hefyd awr dawel o 1pm tan 2pm i unrhyw un sydd eisiau amgylchedd llai prysur a mwy hygyrch.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’n bleser gennym weithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Byd Gwaith i ddod â chyfleoedd yn uniongyrchol at ein cymunedau.
Mae digwyddiadau fel hyn yn enghreifftiau gwych o gefnogi pobl leol i gael gwaith ac arddangos y busnesau gwych sy’n recriwtio ar draws Sir Ddinbych a thu hwnt.”
Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau:
“Mae ffeiriau swyddi yn rhoi cyfle gwych i drigolion Sir Ddinbych weld cyflogwyr wyneb yn wyneb i drafod y rolau sydd ar gael.
"Mewn llawer o achosion, mae ceiswyr gwaith yn cwrdd â nhw yr wythnos ganlynol ar gyfer cyfweliadau, a all arwain at gyflogaeth.
“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Sir Ddinbych yn Gweithio ar lawer o brosiectau amrywiol gan roi cyfle i’n cwsmeriaid dyfu a chyrraedd eu potensial.”
Mae’r digwyddiad ar agor i bawb, pa un ai ydych chi’n chwilio am swydd newydd, yn edrych ar eich opsiynau gyrfa neu angen hyfforddiant a chefnogaeth.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i'n gwefan neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.