Yn dilyn yr amharu diweddar ar y casgliadau ailgylchu, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn caniatáu i drigolion ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) heb wneud apwyntiad o flaen llaw.
Mae’r trefniant yma ar gyfer y safleoedd yn Ninbych, y Rhyl a Rhuthun yn unig. Bydd rhaid i’r trigolion hynny sydd am ddefnyddio’r gwasanaethau dros dro yng Nghorwen a Llangollen, neu safle Plas Madoc yn Wrecsam barhau i wneud apwyntiad o flaen llaw.
- Gall trigolion gymryd unrhyw fath o ailgylchu i’r CAGC ar yr amod ei fod wedi ei wahanu i’r deunyddiau gwahanol priodol, h.y., papur; cardfwrdd; caniau a thuniau metel a phlastig; gwydr; bwyd a gwastraff gardd.
- Gall trigolion wneud apwyntiad wrth gyrraedd gan ddefnyddio’r tabled fydd ar y safle (bydd cymorth ar gael os oes angen).
- Cynyddwd y lle i ganiatáu i mwy o ymweldiadau i’n CAGCau bob dydd.
- Mae'r Cyngor yn parhau i argymell gwneud apwyntiad o flaen llaw gan mai hyn yw’r dull mwyaf rhwydd a chyflym i ymweld â CAGC.
- Bydd rhaid i drigolion gyda cherbydau masnach sy’n berchen ar e-drwydded sy’n caniatáu cael gwared ar wastraff cartref hefyd barhau i wneud apwyntiad o flaen llaw.
Cyhoeddwyd ar: 18 Mehefin 2024
Roedd gwall wrth adfer yr erthygl newyddion, rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.