Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

Cynllun Ynni Ardal Leol wedi’i gymeradwyo

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer y sir.

Cytunodd yr aelodau Cabinet i gefnogi’r cynllun mewn cyfarfod diweddar a drefnwyd gan Arup, Yr Ymddiriedolaeth Garbon ac Afallen a thrwy ymgysylltiad gyda budd-ddeiliaid ers Ebrill 2023.

Ar ran Llywodraeth Cymru, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn rheoli contract gydag ymgynghorwyr sy’n datblygu’r cynllun ar gyfer Sir Ddinbych a siroedd eraill y gogledd.

Mae’r Cynllun Ynni Ardal Leol yn gynllun cyfannol, yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n amlinellu graddfa’r newid a chyfle i ddatgarboneiddio system ynni lleol Sir Ddinbych.

Defnyddiwyd gweithdai i ddod â’r holl fudd-ddeiliaid ynghyd er mwyn trafod system ynni lleol presennol y sir, archwilio beth allai system ynni lleol edrych yn y dyfodol a sut all y Cyngor, y sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector gydweithio i ddylanwadu a darparu’r hyn sydd ei angen ar gyfer system ynni wedi’i ddatgarboneiddio.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae gennym oll ran i’w chwarae i siapio trosglwyddiad Sir Ddinbych a Chymru i fod Sero Net, ac fel Cyngor rydym yn deall pa mor bwysig yw i ni wneud hyn mewn modd sy’n diogelu a chefnogi ein cymunedau mwyaf diamddiffyn, a darparu buddion ychwanegol, megis gwell iechyd a chyfleoedd cyflogaeth ar draws y sir.

“Mae cael Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer Sir Ddinbych yn cyflwyno ein safbwynt cynllunio ynni lleol i gynllun isadeiledd ynni rhanbarthol a chenedlaethol a wneir gan eraill, ac yn sicrhau bod ein blaenoriaethau lleol yn aros wrth galon y trosglwyddiad ynni.”

Bydd y Cynllun Ynni Ardal Leol yn helpu:

  • i benderfynu pa gynnyrch, partneriaethau neu wasanaethau a ellir eu cynnig a’u darparu mewn ardal leol
  • i amlygu ardaloedd gyda photensial sylweddol i ddatblygwyr
  • i helpu paratoi sefydliadau yn well ar gyfer cyfleoedd cyllido cyhoeddus,
  • i lywio barn a phenderfyniadau yn rhanbarthol, cyflawni trosglwyddiad cost effeithiol neu gryfhau’r achos ar gyfer newid polisi sydd ei angen ar lefel Llywodraeth y DU.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mellor: “Rydym wedi ein cymell i barhau i yrru Sero Net ar lefel leol ac rydym yn cydnabod ein rôl fel cynllunydd a chydlynydd, i ysgogi eraill i wneud yr un peth.

“Mae’n bwysig ein bod ni fel Cyngor yn gosod nodau i yrru dyfodol mwy gwyrdd. Fodd bynnag, mae ein dylanwad dros y system ynni yn gyfyngedig, ac ni allwn ddarparu’r cynllun hwn heb fewnbwn gan eraill yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn gweithio gydag eraill yng Ngogledd Cymru i ddarparu’r cynlluniau hyn a byddwn yn llywio’r rhaglen gyda’n gilydd.”


Cyhoeddwyd ar: 01 Hydref 2024