Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae’r holl orsafoedd yn arddangos cod QR Darganfod y Rhyl

Mae canolbwynt gwefru cerbydau trydan newydd yn darparu cymorth Nadoligaidd i fusnesau cyfagos.

Yn ddiweddar, agorwyd safle maes parcio Gorllewin y Rhyl, y canolbwynt gwefru mwyaf yng Nghymru, i gefnogi perchnogion cerbydau trydan yn lleol ac ymhellach.

Mae’r canolbwynt 36 cerbyd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn llwyddiant gosod pwyntiau gwefru ym maes parcio Kings Avenue ym Mhrestatyn yn yr haf.

Mae safle newydd y Rhyl yn gymysgedd o fannau gwefru 7kwh ‘cyflym’ ar gyfer defnyddwyr lleol sydd heb le i barcio oddi ar y stryd, a mannau gwefru 50kw ‘chwim’ ar gyfer gwefru’n gyflym ac i annog gyrwyr tacsis lleol i ddefnyddio cerbydau trydan drwy leihau’r amhariad i’w hamser gweithio.

Mae gorsafoedd ar draws y canolbwynt nawr yn rhoi hwb amserol i fusnesau’r Rhyl wrth i’r Nadolig agosáu.

Mae’r holl orsafoedd yn arddangos cod QR Darganfod y Rhyl, wedi ei bweru gan QR Boxx, mewn partneriaeth ag Ardal Gwella Busnes (AGB) y Rhyl.

Gall ymwelwyr sy’n gwefru eu cerbydau sganio’r cod QR ar y peiriannau gyda’u ffôn a darganfod popeth am yr amrywiaeth gwahanol o fusnesau sydd gan y Rhyl i’w gynnig wrth iddynt aros i’w cerbydau gael eu gwefru.

Mae’r Cyngor hefyd wedi cydweithio gydag AGB y Rhyl fel rhan o’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol sy’n anelu i annog cefnogaeth ar gyfer busnesau lleol ar draws Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyluniwyd y canolbwynt newydd yn y Rhyl i’n helpu i gefnogi’r cyhoedd a’r Cyngor i symud i gerbydau trydan wrth i ni weithio i ostwng ein ôl-troed carbon ar draws Sir Ddinbych ac ymhellach.

“Rydym hefyd eisiau sicrhau y gall y rhai sy’n ymweld weld beth sydd gan y Rhyl i’w gynnig wrth wefru eu cerbydau, gyda’r gobaith o roi hwb i fusnesau’r dref, yn arbennig yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda menter cod QR AGB y Rhyl i ddangos beth sydd gan y Rhyl i’w gynnig i ymwelwyr gan ei bod yn wefan wych a hefyd yn cyd-fynd â’n hymgyrch cefnogi busnesau Caru Busnesau Lleol.”

Dywedodd Abigail Pilling, rheolwr AGB y Rhyl: “Mae’r safle gwefru cerbydau trydan newydd yn gam cadarnhaol i’r Rhyl ac ar gyfer ein hamgylchedd, sy’n gosod ein tref fel canolbwynt rhagweithiol a chyfleus”.

“Magwyd Simon Williams, crëwr QR Boxx, yn y Rhyl, ac mae wedi creu adnodd digidol hawdd ei ddefnyddio a ellir ei ddefnyddio gan fusnesau a’r gymuned ehangach i hysbysebu busnesau, digwyddiadau a gweithgareddau lleol, a chynigion arbennig, trwy sganio’r cod neu fynd i qrboxx-rhyl.com. Gall pobl hefyd brynu talebau Eich Rhyl i’w gwario mewn lleoliadau cymwys yn y Rhyl trwy’r llwyfan.”

Mae’r holl wefrwyr yn agored i’r cyhoedd, ac mae tri o’r gofodau a’r unedau gwefru yn cael eu dyrannu’n benodol ar gyfer defnyddwyr sy’n anabl.

Mae’r unedau gwefru hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau talu dwyieithog gan gynnwys, cerdyn digyswllt, ar Ap a Cherdyn RFID.

Bydd defnyddwyr yn ystod y dydd ac adegau prysur dal yn talu am le parcio ar y safle, fodd bynnag ni fydd rhaid talu am y mannau cerbydau trydan rhwng 17:00 a 08:00 yn unol â gweddill y maes parcio.


Cyhoeddwyd ar: 19 Rhagfyr 2022