Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae wal fyw wedi’i chodi’n ddiweddar ar adeilad Canolbwynt Strategaeth Dinas y Rhyl

Mae wal fyw wedi’i chodi’n ddiweddar ar adeilad Canolbwynt Strategaeth Dinas y Rhyl ar gornel Ffordd Wellington a Stryd Elwy.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda Strategaeth Dinas y Rhyl i gael wal fyw ar ochr yr adeilad. Mae’r datblygiad yn cynnwys deuddeg metr sgwâr o blannu fertigol mewn system fodwlar a system ddyfrio sy’n darparu dŵr a bwyd i’r planhigion yn awtomatig. Mae yna hefyd danc o dan y wal fyw sy’n casglu dŵr er mwyn ei ailgylchu.

Mae’r prosiect hwn yn cefnogi rhaglen adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer y Rhyl ac wedi’i ariannu drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru fel rhan o fenter ehangach i lasu canol trefi ac ymrwymiad i wneud yr awdurdod yn garbon sero-net erbyn 2030.

Defnyddir waliau byw yn aml iawn mewn ardaloedd trefol i ddarparu nifer o fuddion, yn cynnwys gwella ansawdd aer, gwella bioamrywiaeth i ddarparu gofod nythu a bwyd i adar a phryfaid a gwella iechyd a lles pobl.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y fenter hon yn dod ag amryw o fuddion iechyd a lles i bobl sy’n byw ac yn ymweld â’r Rhyl, gan ychwanegu gofod gwyrdd deniadol hefyd.

“Mae waliau byw yn darparu’r budd mwyaf i ardaloedd gyda llawer o isadeiledd trefol ac ychydig iawn o ofodau gwyrdd, gan fod y planhigion yn helpu i lanhau’r aer rydym ni’n ei anadlu.

“Diolch i bawb a oedd yn rhan o’r prosiect hwn, mae’n ein rhoi gam yn nes at gyflawni ymrwymiad y Cyngor i fod yn awdurdod carbon net ac i wireddu ein gweledigaeth ehangach ar gyfer y Rhyl.”

Meddai Joanne Bartlett-Jones, Pennaeth Adnoddau Strategaeth Dinas y Rhyl: “Mae’n wych gallu cynnal y wal fyw ar ein hadeilad fel rhan o fenter i lasu canol y dref.

“Rydym ni’n awyddus iawn i chwarae ein rhan i gynyddu bioamrywiaeth yn yr ardal; mae’n edrych yn wych, yn gwella lles unigolion ac yn helpu’r adar a’r pryfaid lleol!”

Mae’r fenter i lasu canol y dref wedi galluogi’r Gwasanaethau Cefn Gwlad i hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd i wirfoddoli yng nghanol y dref. Os hoffech chi ddod yn Wirfoddolwr Cefn Gwlad neu’n Gefnogwr Cymunedol, anfonwch e-bost at Amy.Trower@sirddinbych.gov.uk.


Cyhoeddwyd ar: 15 Awst 2022