Mae pobl ifanc ar draws Sir Ddinbych nad ydynt mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant (NEET) ar hyn o bryd wedi cael hwb hollbwysig yn sgil cynllun cydweithredol rhwng Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych, Barod/ Sir Ddinbych yn Gweithio, Addysg, GLlM a Choleg Cambria yn sgil cefnogaeth drwy gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chyrraedd cyllid ehangach gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (MEDR).
Yn rhan o’u hymrwymiad i gael gwared ar rwystrau a chreu cyfleoedd, rhoddodd bartneriaid gefnogaeth wedi’i theilwra i helpu dysgwyr NEET gychwyn ar eu hastudiaethau’r hydref hwn. Roedd hyn yn cynnwys adnoddau ymarferol megis pecynnau cychwynnol i fynd i’r coleg gan helpu pobl ifanc i deimlo’n barod ac yn hyderus wrth iddynt gychwyn ar eu haddysg, ni fyddai llawer ohonynt wedi cael cyfle i fynd i’r coleg fel arall.
Er mwyn bod yn fwy parod ar gyfer dysgu, dosbarthwyd 100 pecyn o offer ysgrifennu, gan sicrhau bod hyd yn oed mwy o bobl ifanc wedi cael yr adnoddau sylfaenol sydd ei angen i lwyddo.
Fe gyflwynodd Barod gyfres o weithdai creadigol oedd yn seiliedig ar sgiliau yng Ngholeg y Rhyl dros yr haf. Dyluniwyd y sesiynau yma i fagu hyder, creadigrwydd a chyflwyno llwybrau gyrfaol posibl i gyfranogwyr. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys:
- Sesiynau coginio i hyrwyddo annibyniaeth a byw’n iach
- Gweithdai creu gemwaith a chelf i annog hunan fynegiant ac ymwybyddiaeth ofalgar
- Sesiynau blas o’r sector gan gynnig cipolwg ar faes adeiladu
Roedd y gweithdai yma’n bosibl drwy gydweithio cadarn gyda Choleg Llandrillo y Rhyl a gynhaliodd y sesiynau a chefnogi’r gwaith o ymgysylltu â dysgwyr, ynghyd â phob partner arall a gymerodd ran a fu’n adnabod ac yn atgyfeirio pobl ifanc a allai elwa fwyaf.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’r rhaglen hon yn enghraifft wych o beth y gellir ei gyflawni pan ddaw timau a sefydliadau ynghyd gyda diben a rennir.
“Drwy gydweithio, nid adnoddau yn unig y gallwn ei gynnig i bobl ifanc, ond cefnogaeth ystyrlon sydd yn helpu iddynt deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi ac yn barod i gymryd eu camau nesaf mewn i addysg.”
Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Ymyrraeth Gynnar, Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Roedd Prosiect Pontio Ieuenctid yn enghraifft wych o waith partneriaeth ac erbyn i Barod ymuno yn yr haf, roedd y bobl ifanc wedi ymgysylltu ac yn barod i archwilio’r camau nesaf.
“Roedd gweithgareddau hwyliog Barod yn helpu i adeiladu cydberthynas a rhoi hwb i hyder, gan wneud y sesiynau’n garreg gamu gwerthfawr.
“Roedd modd i’r bobl ifanc hefyd drafod pa becynnau fyddai eu hangen ar gyfer y coleg, ac yna cafodd y rhain eu harchebu a’u cyflwyno’n uniongyrchol i’r myfyrwyr.”
Dywedodd Kelly Owen, Gweithiwr Ieuenctid Ymyrraeth Dargedig – Cydlynydd: “Roedd Rhaglen Pontio’r Haf yn fenter hanfodol wrth gefnogi disgyblion Blwyddyn 11 yn Sir Ddinbych wrth iddynt symud i addysg bellach.
“Sicrhaodd y cydweithrediad rhwng Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych, Barod, Addysg, GLLM Coleg Cambria fod pobl ifanc yn derbyn cefnogaeth gynhwysfawr - ymarferol a chymdeithasol - gan eu galluogi i oresgyn rhwystrau sylweddol.
“Chwaraeodd y cymorth ariannol a ddarparwyd ar gyfer deunyddiau a hadnoddau hanfodol y cwrs ran allweddol wrth atal gwaharddiadau addysgiadol, tra bod amgylchedd cymdeithasol cefnogol y rhaglen yn helpu pobl ifanc i adennill hyder a pharatoi ar gyfer yr heriau sydd o’u blaenau.”
Mae’r cynllun cydweithredol yma’n adlewyrchu ymrwymiad parhaus partneriaid i gefnogi dinasyddion NEET ar draws Sir Ddinbych, gan sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ffynnu, does dim ots o ble maent yn cychwyn.
Roedd Rhaglen Pontio’r Haf yn gynllun hollbwysig yn cefnogi’r rhai oedd yn gadael Blwyddyn 11 yn Sir Ddinbych wrth iddynt symud mewn i addysg bellach. Fe sicrhaodd fod cyfranogwyr yn cael cefnogaeth gynhwysfawr, ymarferol a chymdeithasol, gan alluogi iddynt oresgyn rhwystrau sylweddol. Fe chwaraeodd amgylchedd cefnogol y rhaglen, ynghyd â mynediad i ddeunyddiau hanfodol rôl bwysig yn atal gwaharddiad addysgiadol a pharatoi cyfranogwyr ar gyfer yr heriau o’u blaenau.
I gael gwybod am ddigwyddiadau a chyfleoedd eraill, ewch i sirddinbych.yngweithio.gov.uk neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.