Mae gwaith adeiladu ar ardal chwarae newydd i blant a adeiladwyd ar safle Marchnad y Frenhines wedi dechrau'r wythnos hon.
Bydd yr ardal chwarae ym Marchnad y Frenhines yn cael ei lleoli yn agos at y mynedfeydd ochr, wrth ymyl Maes Parcio Stryd y Frenhines, a bydd yn cymryd tua 3 wythnos i'w chwblhau.
Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y comisiynu a’r profi yn dechrau, cyn agor yn llawn i'r cyhoedd.
Bydd yr ardal chwarae gynhwysol yn cynnwys mwy nag 20 o nodweddion chwarae, a bydd yn gallu darparu ar gyfer dros 40 o ddefnyddwyr ar unrhyw adeg benodol. Mae'r ardal chwarae wedi'i chynllunio ar gyfer plant o 0 - 10 oed a hŷn, a bydd yn cynnwys byrddau chwarae rhyngweithiol a synhwyraidd hefyd.
Wedi'i hadeiladu gyda Marchnad y Frenhines mewn golwg, thema'r ardal chwarae fydd bwyd a diod, gyda’r thema 'caffi' a 'hufen iâ' wedi'u hymgorffori yn rhai o'r offer chwarae.
Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Dinbych, Graham Boase:
“Mae’r ardal chwarae hon yn enghraifft wych o gydweithio, sy’n sicrhau bod lle gwych a chynhwysol arall yn y Rhyl i blant chwarae drwy gydol y flwyddyn, y tro hwn yn lleoliad eiconig Marchnad y Frenhines.
Rydym yn disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd tua thair wythnos i'w gwblhau, cyn y gellir dechrau profi a chomisiynu. Edrychaf ymlaen at weld ased gwych arall i'r lleoliad hwn yn agor yn y dyfodol agos.”
Meddai llefarydd ar ran KOMPAN UK:
“Gweithiodd KOMPAN UK gyda Marchnad y Frenhines i ddatblygu Ardal Chwarae sy’n ategu swyddogaeth y Farchnad yn berffaith, gyda thro hwyliog a chwareus.
Mae plant yn gallu defnyddio eu dychymyg a'u sgiliau chwarae rôl i weini neu fod yn gwsmer yn eu caffi eu hunain!
Mae'r Ardal Chwarae hon wedi'i chynllunio gyda phlant o bob lefel gallu mewn golwg. Mae’n sicrhau bod gweithgareddau chwarae nad ydynt i gyd yn gofyn am gryfder corfforol, ond hefyd yn cynnig gweithgareddau i ddatblygu sgiliau echddygol bras a manwl drwy ddringo, cropian ac archwilio'r nodweddion chwarae. Mae chwarae yma yn datblygu sgiliau gwybyddol hefyd gyda gemau hwyliog a byrddau chwarae creadigol.
Rydym yn falch iawn o allu dylunio a gosod yr Ardal Chwarae hon ym Marchnad y Frenhines ac yn edrych ymlaen at osod mwy o gyfleusterau chwarae a ffitrwydd awyr agored cyffrous yn y Rhyl yn y misoedd nesaf! Dewch i ni Chwarae!”