Mae glan môr y Rhyl yn profi adfywiad deinamig gyda chyfres o gerrig milltir sy'n cael effaith fawr ar drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Mae Bwrdd Cymdogaeth Y Rhyl sy’n arwain ar ymgyrch Ein Rhyl yn cefnogi cyfnod newydd yn nhrawsnewidiad parhaus y dref - gyda'r promenâd yng nghanol dyfodol beiddgar a chyffrous i’r dref.
Mae Marchnad y Frenhines, sydd newydd agor, yn dirnod allweddol i’r adfywiad hwn, gan gyfuno dyluniad modern â chymeriad lleol, gan ddod â siopau bwyd annibynnol, masnachwyr lleol, digwyddiadau dros dro a gweithgareddau cymunedol ynghyd ac mae miloedd o gwsmeriaid eisoes wedi mwynhau’r safle o fewn wythnosau i'w hagor.
Ochr yn ochr â hyn, mae'r rhaglen o welliannau amddiffyn môr wedi'i chwblhau, gan gryfhau arfordir Y Rhyl yn erbyn effeithiau newid hinsawdd a risg llifogydd.
Gan ychwanegu at y momentwm, mae parc dŵr SC2 wedi ailagor, mae'r Ember Lounge newydd yn boblogaidd gyda bwytawyr a chefnogwyr chwaraeon, ac mae Merlin Cinemas wedi cymryd drosodd yr hen Vue Cinema, gan sicrhau bod y sgrin fawr yn parhau yn rhan allweddol o’r cynnig hamdden yn y dref.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl, Craig Sparrow: “Mae’n wych gweld cymaint o newid cadarnhaol yn digwydd ar draws y promenâd.
“Mae’r cynnydd hwn yn ymwneud â mwy na dim ond adeiladau a seilwaith – mae’n ymwneud â balchder, dyhead a datgloi potensial y Rhyl fel lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Mae’r prosiectau hyn yn ganlyniad uniongyrchol i fewnbwn cymunedol ac arweinyddiaeth gydweithredol.”
Ymhellach i fyny’r promenâd, mae’r trawsnewidiad yn parhau lle safai’r hen Seaquarium. Mae’r safle wedi’i glirio i ddatgelu ardal gyhoeddus newydd, gyda chynlluniau dan drafodaeth ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae gwaith yn mynd rhagddo ar Barc Drifft newydd sbon ar Rodfa’r Gorllewin – a fydd yn disodli’r hen ardal chwarae i blant gyda chyfleusterau modern, cynhwysol a chreadigol sy’n adlewyrchu uchelgeisiau’r Rhyl ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc.
Ychwanegodd Rheolwr Rhaglen newydd Ein Rhyl/Our Rhyl, Sandra Sharp: “Dim ond y dechrau yw hwn. Rydym yn gweld egni a momentwm go iawn yn adeiladu yn y Rhyl, ac rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl leol yn ganolog i’r daith.
“Mae’r murluniau newydd bywiog a fydd yn ymestyn dros yr amddiffynfeydd arfordirol yn enghraifft o’r cydweithrediad lleol hwn ac yn arddangos cryfder creadigrwydd a chyfraniad lleol.
“O leoedd a busnesau newydd i adnoddau gwell ac amgylchedd mwy croesawgar, mae trawsnewidiad y Rhyl yn rhywbeth y gallwn ymfalchïo yndo a bydd yn sylfaen gadarn ar gyfer y strategaeth adfywio 10 mlynedd gwerth £20m y mae’r Bwrdd yn ei harwain.”
Yn yr wythnosau nesaf, bydd gwaith pellach ar lan y môr - i'w wneud gan Gyngor Sir Dinbych ac a ariennir gan y Prosiect Amddiffyn Arfordirol a Chyllid Blwyddyn 4 Pontio Rhannu Ffyniant - yn cynnwys peintio ac ailosod canllawiau sydd wedi'u difrodi a'u cyrydu, ailosod neu gael gwared ar ardaloedd eistedd dan do awyr agored, gwaith tirlunio ac atgyweirio ac adnewyddu strwythurau dur addurniadol.
Am ragor o wybodaeth am Ein Rhyl/Our Rhyl ewch i sirddinbych.gov.uk/bwrdd-cymdogaeth-y-rhyl (Cymraeg), a dilynwch @einrhyl a @ourrhyl ar Instagram, LinkedIn a TikTok.