Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Y llynedd defnyddiodd Cyngor Sir Ddinbych gymysgedd o ffrydiau ariannu i brynu’r hen siop Next yng nghanol tref y Rhyl.

Bwriad y Cyngor oedd adnewyddu’r adeilad a chreu llety preswyl ar y lloriau uchaf ac unedau cyfoes ar y llawr gwaelod i ddenu busnesau a sefydliadau addas i ganol y dref.

Bu’n rhaid diwygio cynlluniau’r Cyngor, fodd bynnag, wedi i beiriannydd strwythurol gynnal archwiliadau manwl o’r adeilad ac argymell y dylid ei ddymchwel.

Yn y cynllun gwreiddiol, y bwriad oedd adnewyddu’r adeilad mewn dau gam. Y cam cyntaf fyddai tynnu popeth o du mewn yr adeilad, a disgwylid y byddai’r ail gam yn cynnwys gwaith strwythurol ar y waliau, y lloriau a’r to.

Er bod rhai diffygion strwythurol wedi’u nodi cyn prynu’r adeilad ac yng nghamau cyntaf y broses ddylunio, dim ond wrth ddechrau’r gwaith manwl o dynnu’r holl ddeunydd o du mewn yr adeilad y daeth i’r amlwg mor ddifrifol oedd y problemau strwythurol mewn gwirionedd.

Meddai Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol, yr Economi a’r Parth Cyhoeddus, Cyngor Sir Ddinbych,

“Mae rhan o’r gwaith a wneir drwy ein dogfen Weledigaeth yn cynnwys gwella cyflwr adeiladau’r dref er mwyn gwella’r parth cyhoeddus. Rydym yn dal i weithio â pherchnogion adeiladau yn y dref i geisio annog y sector preifat i fuddsoddi ynddyn nhw.

Mae’r Cyngor yn dal wedi ymrwymo’n llwyr i adfywio’r Rhyl a bydd angen i ni fuddsoddi mewn adeiladau nes bod ffydd y farchnad yn y dref yn dychwelyd.

Ar y dechrau roedden ni’n bwriadu adnewyddu’r adeilad hwn, ond ar ôl archwiliadau strwythurol manwl fe ddaeth hi’n amlwg ei fod mewn cyflwr gwael dros ben, gan fod y cyn-berchnogion wedi’i adael i fynd â’i ben iddo ers nifer o flynyddoedd. Yn anffodus, ar sail y cyngor a roddwyd inni, fel perchnogion cyfrifol nid oes gennym unrhyw ddewis ond dymchwel yr adeilad ac ailddatblygu’r safle.

“Er mor anffodus yw hyn, gallai olygu bod gan y Cyngor fwy o ddewis ynghylch dyfodol y safle. Unwaith y bydd y gwaith o ailddatblygu’r safle amlwg hwn ar y Stryd Fawr wedi’i gwblhau, bydd yno leoedd bendigedig a fydd o fudd i fusnesau a’r trigolion. Fe fydd yn hwb i economi’r dref a'r hyn sydd ganddi i’w gynnig, a dylai hynny annog buddsoddwyr preifat i wario arian ar eu hadeiladau eu hunain yng nghanol y dref.

“Mae’r Cyngor yn dal yn canolbwyntio ar wella naws ac ansawdd canol y dref.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, ailddatblygu Adeiladau Queen’s a chynlluniau eraill o dan faner Adfywio’r Rhyl, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/adfywio/y-rhyl/adfywior-rhyl.aspx.


Cyhoeddwyd ar: 07 Mai 2021