Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Yn ddiweddar enillodd Sara Thelwell, Therapydd Galwedigaethol gyda Chyngor Sir Ddinbych y ‘Wobr Arloesedd’ fawreddog yn seremoni Dathlu Rhagoriaeth Mewn Therapi Galwedigaethol Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol (RCOT) 2023 a gynhaliwyd yn y Shard yn Llundain.

Mae enillydd y Wobr Arloesedd yn derbyn arian tuag at brosiectau sy’n anelu at gefnogi dyfodol y proffesiwn ac arfer proffesiynol.

Derbyniodd Sara’r wobr yn gynharach eleni ond fe’i cyflwynwyd iddi’n ffurfiol yn y seremoni wobrwyo flynyddol a gynhaliwyd yn y Shard.

Gyda’r arian a dderbyniodd bu modd i Sara fynd i Wlad Belg yn gynharach eleni i weithio gyda’r ffisiotherapydd blaenllaw Jo DeClercq, lle astudiodd y dechneg ofal Troi Unwaith yn Unig y Gwely. Mae’r dull hwn wedi arwain at niferoedd llawer llai o unigolion yn datblygu anafiadau pwysau a chrebachdod.

Gan siarad am y wobr, dywedodd Sara:

“Roeddwn i wrth fy modd pan glywais fy mod wedi ennill Gwobr Arloesedd yr RCOT yn gynharach eleni a chael derbyn y wobr yn ffurfiol mewn digwyddiad arbennig iawn yn y Shard. Rwy’n hynod ddiolchgar i Gyngor Sir Ddinbych am fy nghefnogi a’m hannog i gwblhau’r prosiect hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Rydw i’n falch dros ben fod Sara wedi ennill y wobr glodfawr hon, mae’n wych pan mae aelodau o staff Sir Ddinbych yn cael eu cydnabod am eu hymroddiad a’u gwaith caled aruthrol.

Mae ein timau’n gweithio mor galed i helpu’r rhai sydd â’r mwyaf o angen yn ein cymunedau, ac alla’i ddim diolch ddigon iddyn nhw am eu gwaith neilltuol.”


Cyhoeddwyd ar: 14 Tachwedd 2023