Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda sefydliadau partner i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro yn yr Wcrain.

Mae'r Cyngor wedi bod yn cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel rhan o ymateb ar y cyd yng Nghymru i sicrhau dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r argyfwng.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae meddyliau’r Cyngor cyfan gyda phawb yn yr Wcrain sydd wedi’u heffeithio gan y gwrthdaro parhaus.

“Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym iawn ac mae’r argyfwng dyngarol yn tyfu gyda nifer fawr o bobl angen cymorth brys.

“Byddwn yn chwarae rhan yn yr ymateb ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill fel mater o frys wrth i gynlluniau ddatblygu.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Mae’r sefyllfa bresennol yn yr Wcrain yn dorcalonnus gyda miloedd o bobl eisoes yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi yn ofni am ddiogelwch eu teuluoedd.

“Yng Nghymru mae gennym hanes cryf o weithio i ailsefydlu teuluoedd o Syria ac Afghanistan, ac rydym wedi cefnogi’r ymdrechion hynny yma yn Sir Ddinbych, yn gweithio o dan Brosiect Adsefydlu’r DU.

“Fel Cyngor byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu yn ystod yr argyfwng parhaus hwn.”

Gall trigolion Sir Ddinbych sydd am roi eitemau i'r rhai yn yr Wcrain sy'n cael eu gorfodi i adael eu cartrefi wneud hynny trwy gangen Wrecsam o'r Ganolfan Cefnogi Integreiddio Pwyleg.

Ewch i www.facebook.com/PISCWrexham/ neu cysylltwch â 0752367826 am ragor o wybodaeth neu edrychwch ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw gasgliadau lleol.

Gall preswylwyr hefyd ymweld â www.redcross.org.uk am wybodaeth Apêl Argyfwng yr Wcrain.


Cyhoeddwyd ar: 01 Mawrth 2022