Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi y bydd Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn agor ei drysau'n swyddogol i'r cyhoedd ar y 10fed o Orffennaf.
Mae adeilad Marchnad y Frenhines wedi bod yn dirnod eiconig yng nghanol y Rhyl ers 1902 ac wedi ei ddefnyddio ar gyfer nifer o bethau yn y dref dros y blynyddoedd.
Mae'r datblygiad newydd yn cynnwys 16 o unedau bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr a gofod digwyddiadau mawr, a bydd yn ofod cymunedol blaenllaw yng nghanol y Rhyl.
I ddathlu, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau dros y penwythnos agoriadol bob dydd o ddydd Iau'r 10fed o Orffennaf, hyd at ddiwedd y penwythnos. Caiff y rhaglen digwyddiadau cyffrous ei gyhoeddi’n fuan iawn.
Mae'r gwaith mewnol yn y farchnad bellach yn cyrraedd y camau olaf, gyda’r paratoadau terfynol yn mynd rhagddynt cyn agor y lleoliad.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Amddifadedd:
“Rydym wrth ein bodd gallu cyhoeddi y bydd drysau Marchnad y Frenhines ar agor i’r cyhoedd o’r 10fed o Orffennaf, llai na mis i ffwrdd.
Mae amserlen lawn ac amrywiol o ddigwyddiadau wedi’i gosod o’r diwrnod agoriadol, a fydd yn rhedeg drwy gydol y penwythnos a chaiff ei chyhoeddi’n fuan.
Bydd y lleoliad hwn yn dod â chynigion ffres, modern a chyffrous i’r Rhyl a Sir Ddinbych gyfan, ac mae’n chwarae rhan bwysig yn ein hymdrechion i adfywio’r ardal trwy greu swyddi a chynyddu’r nifer y bobl sy’n ymweld â’r Rhyl.
Mae gan y Farchnad gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus wych ac mae o fewn pellter cerdded o’r stryd fawr a’r traeth.
Bydd Marchnad y Frenhines yn ganolfan i’r gymuned a bydd yn cynnwys dewisiadau bwyd, diod a manwerthu o ansawdd uchel, yn ogystal â gofod digwyddiadau modern o’r radd flaenaf, gaiff ei ddefnyddio i gynnal cyngherddau, marchnadoedd, digrifwyr, digwyddiadau a mwy.
Bydd yr adeilad ar agor ar gyfer yr haf, ac ychydig cyn dechrau gwyliau haf yr ysgolion, sef un o’r cyfnodau prysuraf o ran twrisiaeth ac ymwelwyr yn yr ardal.
Rydym yn gwahodd holl drigolion y Rhyl, a thu hwnt i ddod draw i'r penwythnos agoriadol a darganfod beth all y lleoliad newydd hwn ei gynnig iddynt.”
Dywedodd Andrew Burnett, Cyfarwyddwr Midlands Events (Rhyl) Limited:
“Mae Midlands Events (Rhyl) Ltd, ynghyd â Chyngor Sir Ddinbych, yn falch o gyhoeddi dyddiad agor Marchnad y Frenhines, sef dydd Iau 10 Gorffennaf.
Mae gennym gymysgedd gwych o fanwerthwyr bwyd o ansawdd uchel, bar thema ac rydym wedi cynllunio penwythnos llawn o adloniant gwych ar gyfer y penwythnos agoriadol.
Edrychwn ymlaen at groesawu pob cwsmer i ddod draw i ymlacio, bwyta bwyd da, cael diod a mwynhau'r adloniant am ddim rydym wedi'i gynllunio dros y penwythnos.
Rydym yn falch iawn o'r lleoliad rydym wedi'i greu ac yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r safle.”
Mae prosiect Marchnad y Frenhines wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf drwy ei Rhaglen Trawsnewid Trefi.
Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid o gyllid SPF Llywodraeth y DU.
Mae hefyd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Raglen Balchder Lle a'r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Mae'r prosiect hefyd yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych.