Mae preswylydd Sir Ddinbych wedi canmol y gefnogaeth a gafodd gan Sir Ddinbych yn Gweithio, gan ddisgrifio’r gwasanaeth fel “achubiaeth” wrth ei helpu i sicrhau cyflogaeth sefydlog.
Fe wnaeth James, sydd bellach yn Swyddog Gweinyddol i Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych, droi at Sir Ddinbych yn Gweithio ar ôl cael trafferth dod o hyd i waith. Rhoddodd y gwasanaeth gymorth ymarferol iddo, yn cynnwys paratoi at gyfweliadau a chreu cysylltiadau gyda chyflogwyr, gan ei helpu i gael swydd sy’n cynnig sicrwydd ariannol a hyder yn ei ddyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Nod Sir Ddinbych yn Gweithio yw creu cyfleoedd a chwalu rhwystrau i gyflogaeth.
“Rydym eisiau sicrhau bod gan bawb yn Sir Ddinbych fynediad at gymorth sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau, yn union fel y mae wedi’i wneud i James.
"Mae ei stori yn enghraifft wych o sut mae cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir yn gallu trawsnewid dyfodol rhywun.”
Rhoddodd Sir Ddinbych yn Gweithio gymorth wedi’i deilwra i James, yn cynnwys hyfforddiant cyfweliad a sicrwydd trwy gydol y broses.
Dywedodd James, cyfranogwr blaenorol Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Cyn cael fy nghyflwyno i Sir Ddinbych yn Gweithio, fe wnes i wynebu heriau. Roeddwn yn cymryd amser hir i ddod o hyd i waith ac roeddwn yn poeni am dalu biliau. Roeddwn eisiau’r sicrwydd hwnnw, rôl y gallwn ddibynnu arni.
“Roedd y tîm, yn enwedig Fiona, wastad yna i mi os oeddwn yn cael trafferthion neu eisiau ymarfer cwestiynau cyfweliad posibl. Bu i’r cymorth hwnnw wneud gwahaniaeth mawr.
"Rwy’n teimlo fy mod wedi datblygu fel unigolyn ers cael y rôl hon, rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus rŵan. Mae gennyf arian yn dod i mewn yn rheolaidd ac rwyf hyd yn oed wedi dechrau cynilo, sy’n wych.”
Gan annog eraill i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael, ychwanegodd James: “Roedd Sir Ddinbych yn Gweithio yn achubiaeth i fod yn onest. Byddwn yn argymell i unrhyw un sydd angen gwaith i gysylltu â nhw.”
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n helpu preswylwyr i gael mynediad at hyfforddiant, dod o hyd i gyflogaeth a magu eu hyder o ran dod o hyd i swydd. Gall unrhyw un sy’n chwilio am gymorth gysylltu trwy fynd i'n gwefan.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.
I weld mwy am stori James, gallwch wylio'r fideo byr yma.