Fe fydd Sir Ddinbych yn Gweithio, ar y cyd ag Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru, yn cynnal Ffair Swyddi, ddydd Mercher 21 Mai, yn Neuadd Gymunedol Sant Collen, Llangollen LL20 8PL.
Mae’r digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal rhwng 11am a 3pm, yn cynnig cyfle gwych i rai sy’n chwilio am swyddi gyfarfod gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr lleol a rhanbarthol, ar draws nifer o ddiwydiannau.
Pa unai ydych chi’n chwilio am eich swydd gyntaf, yn dychwelyd i fyd gwaith, neu’n barod i newid gyrfa, mae’r Ffair Swyddi ar agor i bawb ac mae’n rhad ac am ddim.
Bydd modd i fynychwyr archwilio swyddi gwag, siarad yn uniongyrchol â rheolwyr sy’n penodi, a chanfod llwybrau i hyfforddiant a chyflogaeth. Fe fydd staff o Sir Ddinbych yn Gweithio wrth law hefyd i gynnig cyngor ac arweiniad o ran chwilio am swyddi, llunio CV a pharatoi ar gyfer cyfweliad.
Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad cyntaf yn gynharach eleni yn y Rhyl, rydym ni’n falch o gynnal ein hail Ffair Swyddi yn Llangollen, ac mae disgwyl i’r digwyddiad fod yn boblogaidd gyda chyflogwyr a phreswylwyr.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae dod â’r digwyddiad yma i Langollen yn rhoi hyd yn oed mwy o gyfleoedd i bobl yn Nyffryn Dyfrdwy i gwrdd â chyflogwyr, edrych ar ddewisiadau hyfforddiant a chymryd eu camau nesaf i mewn i waith.
Rydym ni’n falch o gefnogi digwyddiadau fel hyn sydd yn cael effaith gwirioneddol ar ein cymunedau a helpu busnesau lleol i gysylltu ag ymgeiswyr gwych.
Meddai Ruth Hanson, Prif Reolwr yn Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Mae ein Ffeiri Swyddi wedi’u dylunio i fod yn llefydd croesawgar a hygyrch lle gall pobl ddod i siarad gyda chyflogwyr wyneb yn wyneb, dysgu am swyddi gwag a magu hyder wrth chwilio am swyddi.
“Ar ôl llwyddiant ein ffair swyddi yn y Rhyl, rydym ni’n falch iawn o ddod â’r digwyddiad yma i Langollen ac rydym ni’n edrych ymlaen at helpu preswylwyr gysylltu gyda chyfleoedd newydd.”
Er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb, fe fydd llefydd tawel ar gael ar y diwrnod i unigolion allai elwa o amgylchedd tawelach. Mae modd archebu’r rhain gan ddefnyddio’r ddolen hon: Microsoft Forms
Fe anogir cyflogwyr a hoffai ymuno â’r Ffair Swyddi i gysylltu â ni drwy e-bostio: employmentcoordinators@sirddinbych.gov.uk.
Mae yna hefyd rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf a rhagor o wybodaeth, dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol neu ewch i’n gwefan.