Cyngor yr ysgol: Llais y disgybl

Grŵp o ddisgyblion sydd wedi’u hethol  gan aelodau eraill o'r ysgol i'w cynrychioli nhw a'u safbwyntiau ar bethau sy’n bwysig iddyn nhw yw Cyngor yr Ysgol. Mae Cyngor yr Ysgol yn trafod materion fel:

  • gwisg ysgol
  • offer chwarae / hamdden
  • Addysgu a Dysgu
  • prosesau cynllunio a gwerthuso’r ysgol
  • digwyddiadau 
  • cyfweliadau staff

Caiff materion eu trafod fel arfer o fewn Cyngor  yr Ysgol, ac yna eu codi gyda'r Pennaeth a/neu lywodraethwyr yr ysgol. 

Ymuno â Chyngor yr Ysgol

I ymuno â Chyngor yr Ysgol, rhaid i chi gael eich ethol gan ddisgyblion eraill yn eich ysgolion. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o Gyngor yr Ysgol, dywedwch wrth eith athro cofrestru/athro dosbarth. 

Codi mater gerbron Cyngor yr Ysgol

Os oes gennych fater yr hoffech i Gyngor yr Ysgol ei drafod, gallwch;

  • Roi eich syniadau ym mlwch Awgrymiadau Cyngor yr Ysgol
  • e ideas on the School Council notice boardRhoi syniadau ar hysbysfwrdd Cyngor yr Ysgol
  • Tell your Class / Year representativeDweud wrth gynrychiolydd eich Dosbarth/Blwyddyn
  • Speak with your Class teacherSiarad gyda’ch athro dosbarth

Ffyrdd eraill o gymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol

Os hoffech gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol eraill, gallwch siarad â rhywun yn eich ysgol am:

  • Eco-Ysgolion
  • Grŵp Gweithredu ar Faeth yn yr Ysgol
  • Uwch Lysgenhadon
  • Llysgenhadon Chwaraeon
  • Bydis / Mentora Cymheiriaid