Gwneud cais i drosglwyddo i ysgol newydd

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Darllenwch y nodiadau pwysig hyn a thiciwch i gadarnhau eich bod yn deall ac yn cytuno cyn i chi gwblhau'r cais hwn i newid ysgol:

    • Trafodwch unrhyw broblemau neu bryderon sydd gennych gyda phennaeth presennol eich plentyn cyn i chi wneud cais am le mewn ysgol arall.

    • Rhiant cyfreithiol, gofalwr neu warcheidwad y plentyn yn unig a gaiff lenwi'r ffurflen gais hon.

    • Pan fo cyfrifoldeb a rennir rhwng rhieni, rhaid i'r ddau riant gytuno ar y dewisiadau a restrir ar y cais hwn. Cyfrifoldeb y rhieni yw i ddod i'r cytundeb hwn.

    • Efallai y byddwn yn gofyn am brawf o gyfeiriad.

    • Gall lle mewn ysgol a roddwyd ar sail wybodaeth dwyllodrus gael ei dynnu'n ôl.

    • NID yw lle yn y dosbarth Meithrin mewn ysgol ddewisol yn gwarantu lle yn y dosbarth Derbyn - mae'r broses ymgeisio yn dechrau o'r newydd.

    • Darperir cludiant ysgol am ddim fel arfer i'r ysgol addas agosaf yn unig os yw'n fwy na 2 filltir o'r cyfeiriad cartref ar gyfer ceisiadau Derbyn - Blwyddyn 6, neu'n fwy na 3 milltir o'r cyfeiriad cartref ar gyfer ceisiadau Blwyddyn 7 - Blwyddyn 11.

    • Gallwch fynegi dewis am addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, neu addysg sy'n seiliedig ar ffydd.

    • Os hoffech ymgeisio am leoedd ysgol ar gyfer mwy nag un plentyn, rhaid cwblhau un ffurflen gais ar gyfer pob plentyn.

    • Wrth lenwi'r ffurflen gais hon ar-lein, rydych yn cytuno i ddarparu cyfeiriad e-bost, y byddwn yn ei ddefnyddio i gydnabod ein bod wedi derbyn eich cais.

    • Os ydych chi'n byw y tu allan i'r UE, rhaid i chi ddarparu llungopi o'ch fisa cyn y gallwn ystyried unrhyw gais am le mewn ysgol. Nid yw'n bosibl atodi copïau electronig i'r ffurflen gais ar-lein, felly lawrlwythwch a chwblhewch ffurflen gais bapur, os gwelwch yn dda.

  • Rwy'n cadarnhau fy mod yn deall ac yn cytuno â'r pwyntiau uchod.