Dim ond os hoffech roi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol neu ffurflen gais trosglwyddo ysgol, y dylech lenwi'r ffurflen hon. Gallwch gyflwyno un ffurflen fesul plentyn, fesul cais.
I lenwi’r ffurflen hon, bydd yn rhaid i chi ddarparu:
- cyfeirnod eich cais - (os ydych am wneud newid i ffurflen dderbyn a gyflwynwyd drwy gyfrif Hunanwasanaeth Addysg)
- eich manylion
- manylion eich plentyn
- gwybodaeth am yr hyn yr hoffech ei newid ar eich ffurflen gais am le mewn ysgol
Sut i ddod o hyd i’ch cyfeirnod
Gallwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod drwy agor y ddolen yn yr e-bost a anfonwyd i’r cyfeiriad a ddarparoch ar ôl i chi gyflwyno eich cais (o dan ‘Manylion cais’ wedi i chi agor y ddolen yn yr e-bost).
Neu gallwch ddilyn y camau hyn i gael y cyfeirnod o’ch cyfrif Hunanwasanaeth
Addysg:
- mewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Addysg
- agor ‘Rheoli Cyfrif’
- agor ‘Ceisiadau’
- agor ‘Derbyniadau’
- Ewch i’r cais yr ydych eisiau ei newid
- bydd y cyfeirnod o dan ‘Manylion y Cais’