Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych: Diogelu a Chyfrinachedd

Mae diogelwch person ifanc a’i hawl i gyfrinachedd yn bwysig yn ystod sesiynau cwnsela. 

Diogelu

Os byddwn ni’n poeni’n arw amdanat ti ac yn credu dy fod mewn perygl, byddwn yn siarad gyda thi am yr angen i roi gwybod i rywun beth sydd wedi digwydd neu beth sy’n digwydd i ti. Byddem yn gwneud hyn:

  • Os yw dy fywyd mewn perygl oherwydd rhywbeth rwyt ti’n ei wneud
  • Os wyt ti mewn perygl gan rywun arall
  • Os wyt ti’n berygl i rywun arall

Byddwn bob amser:

  • Yn egluro ein dyletswydd gofal i dy ddiogelu ar ddechau dy sesiynau cwnsela.
  • Yn rhoi gwybod i ti i bwy fyddwn ni’n rhoi dy fanylion a pham
  • Yn rhoi gwybod i ti am unrhyw gamau rydym yn bwriadu eu cymryd
  • Yn rhoi gwybod i ti am unrhyw gamau gweithredu rydym yn bwriadu eu cymryd.

Os oes gan gwnselydd unrhyw bryderon diogelu amdana ti neu unrhyw un arall, mae gan gwnselydd ddyletswydd i rannu’r wybodaeth hon gydag asiantaethau eraill. Hefyd yn gyfreithiol, mae’n rhaid i ni adrodd unrhyw arwydd o’r materion canlynol:

  • terfysgaeth
  • gwyngalchu arian
  • priodas dan orfod

Cyfrinachedd

  • Mae’r wybodaeth rwyt ti’n ei rhannu mewn sesiynau gyda dy gwnselydd yn gyfrinachol, oni bai bod y cwnselydd yn credu dy fod di mewn perygl o niwed.
  • Mae’n bosibl y bydd adegau pan fyddi di a dy gwnselydd yn penderfynu y gellir rhannu gwybodaeth gyda phobl eraill (fel meddyg teulu/rhieni/gofalwyr neu athrawon).
  • Bydd y cwnselydd bob amser yn cytuno gyda thi ymlaen llaw beth y gellir ei rannu a beth y dylid ei rannu.
  • Bydd cwnselydd yn cofnodi dy enw, dyddiad geni, rhif ffôn, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost yn ystod sesiwn gwnsela.
  • Os bydd cwnselydd yn cyfathrebu gyda thi trwy gyfrwng e-bost neu neges destun, dim ond gydag eraill os bydd pryder am ddiogelu yn codi y bydd y  wybodaeth hon yn cael ei rhannu.  Ni fydd cwnselydd yn rhoi’r wybodaeth hon i drydydd parti arall fel arall.
  • Bydd dy gwnselydd yn egluro ‘defnyddio data categori arbennig’ a ‘phrosesu cyfyngedig’ gan DIYPCS a bydd yn egluro ein hysbysiad preifatrwydd.
  • Gall cwnselydd gymryd nodiadau ysgrifenedig am dy sesiynau at ddibenion goruchwylio a/neu ei f/meddyliau o/hi. 
  • Bydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei gofnodi/ei ysgrifennu yn cael ei gadw’n ddiogel. Darllenwch yr adran Preifatrwydd a Diogelwch i gael rhagor o fanylion.