Llwybr Atal Hunan-Anaf

Mae pobl ifanc sydd wedi cyflawni gweithred o hunan-niwed ac wedi cyflwyno gyntaf yn y Gwasanaethau Addysg yn achosi mwy a mwy o bryder.

Mae llwybr asiantaethau ar y cyd wedi ei ddatblygu a'i weithredu rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) (gwefan allanol) arbenigol ac adran Gwasanaethau Addysg Awdurdod Lleol Sir Ddinbych, y nod yw darparu ymateb diogel a gefnogir i helpu pobl ifanc sy'n hunan-niweidio ac sy’n dod i sylw staff yn gyntaf mewn lleoliadau ysgol. Mae'r llwybr yn sicrhau pan fydd hunan-niwed yn cael ei ddatgelu gyntaf mewn lleoliad addysg, bydd Swyddog Cyswllt Hunan-Niwed wedi'u hyfforddi yn:

  • gwrando ar y person ifanc gyda thosturi
  • casglu gwybodaeth gychwynnol am yr hyn sydd wedi digwydd, gan gynnwys sut y mae'r person ifanc yn teimlo/cyflwyno
  • a chysylltu â CAMHS arbenigol bob amser i drafod a chytuno ar gynllun rheoli risg cychwynnol

Mae'r llwybr yn diffinio'n glir yr hyn y mae angen ei wneud a phryd, pwy ddylai ei wneud a phwy sy'n gyfrifol am beth yn ystod pob cam. Yn sail i bob cynllun rheoli mae ymagwedd gydgysylltiedig at unrhyw anghenion cymorth parhaus ar gyfer pobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod anghenion monitro yn glir ac y cytunwyd arnynt.

Lle cytunir bod rhan o gynllun diogelwch yn gofyn am asesiad iechyd meddwl cynhwysfawr gyda pherson ifanc, bydd atgyfeirio i mewn i'r tîm CAMHS arbenigol lleol yn cael ei hwyluso trwy'r cysylltiadau a sefydlwyd eisoes gyda Phwynt Mynediad Sengl y tîm CAMHS.

Swyddogion Cyswllt Hunan-Niwed yn seiliedig mewn lleoliadau ysgol

Dewiswyd gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion gan Benaethiaid i weithredu'r llwybr y cytunwyd arno ym mhob ysgol uwchradd. Yn Sir Ddinbych gelwir y bobl hyn yn Swyddogion Cyswllt Hunan‑Niwed. Rhoddwyd cyngor i ysgolion ar y nodweddion gofynnol ar gyfer y rôl a'r cymorth parhaus sydd ei angen gan yr ysgol ar gyfer gweithredu llwyddiannus.

I drafod pobl ifanc sydd wedi (neu wedi dangos y byddant yn) niweidio eu hunain, neu i drafod gydag ymarferydd iechyd meddwl unrhyw bryder yn ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc, cysylltwch â phwynt mynediad sengl eich tîm CAMHS arbenigol lleol ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01745 448670 rhwng 9am ac 5pm.

I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a chymorth dilynol cysylltwch â'ch swyddog cyswllt yn y Gwasanaethau Addysg.

Dogfennau cysylltiedig

Ysgolion: Ymateb i Hunan-niwed neu Hunanladdiad: Rheoli Risg (PDF, 88KB)