Beth i’w wneud yn ystod llifogydd

Peidiwch â cheisio gyrru neu gerdded drwy lifddwr. Gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich taro oddi ar eich traed, ac mi fydd dwy droedfedd o ddŵr yn ddigon i'ch car arnofio. Mae nifer o bethau ymarferol y mae modd i chi eu gwneud i helpu atal difrod i'ch cartref:

  • diffoddwch eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr
  • gallwch helpu i atal dŵr rhag dod i mewn i eiddo trwy:
    • roi plygiau mewn sinciau a rhoi rhywbeth trwm arnynt i’w cadw i lawr
    • plygio pibelli dŵr gyda thywelion neu gadachau
    • datgysylltu unrhyw offer sy’n defnyddio dŵr, fel eich peiriant golchi dillad
  • ceisiwch osgoi cyffwrdd llifddwr lle bo modd, gan mae'n bosib y bydd wedi'i halogi
  • peidiwch â gadael eich cartref neu fynd i mewn i lifddwr oni bai bod aelod o'r gwasanaethau brys yn dweud wrthych i wneud

Gallwch ein dilyn ar Facebook (gwefan allanol) a Twitter (gwefan allanol) i gael diweddariadau yn ystod llifogydd.

Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru fwy o wybodaeth am beth i’w wneud yn ystod llifogydd (gwefan allanol).