Sachau tywod
Os ydych yn byw mewn ardal â pherygl o lifogydd ac yn teimlo yr hoffech gadw ambell fag tywod yn eich cartref fel rhagofal i’w ddefnyddio os bydd llifogydd, gallwch brynu bagiau tywod o siopau nwyddau neu siopau DIY. Mae systemau arbenigol eraill ar gael i amddiffyn drysau a brics aer.
Nid ydym yn darparu bagiau tywod i eiddo unigol pan fydd llifogydd..
Mae’n fwy effeithiol i ni ddiogelu strydoedd cyfan trwy ddefnyddio’r bagiau tywod i wyro llwybr y dŵr a’i gyfeirio at gylïau a thyllau caead.
Rhwystrau rhag llifogydd
Nid ydym yn darparu rhwystrau rhag llifogydd i eiddo unigol ond gellir eu darparu i grwpiau cymunedol sy’n gweithredu yn erbyn llifogydd. Dysgwch fwy am sefydlu grŵp cymunedol sy’n gweithredu yn erbyn llifogydd.
Paratoi eich cartref ar gyfer llifogydd
Yn ystod llifogydd mae'n bosib na fydd gennych drydan, golau, gwres na llinell ffôn. Mi fydd dilyn y camau hyn yn eich helpu i baratoi. Nawr yw'r amser i feddwl amdani - peidiwch ag aros tan i lif ddigwydd.
Mae Flood Re yn fenter ar y cyd rhwng y Llywodraeth ac yswirwyr. Y nod yw gwneud y rhan sy'n yswirio difrod llifogydd ym mholisi yswiriant y cartref yn fwy fforddiadwy. Darganfyddwch a all Flood Re eich helpu chi (gwefan allanol).
Paratowch gynllun llifogydd personol sy'n cynnwys gwybodaeth bwysig y byddai ei hangen arnoch pe bai eich cartref yn dioddef lleifogydd, megis rhifau polisi yswiriant, a manylion cyswllt pobl y gall fod angen cysylltu â nhw mewn argyfwng. Cadwch eich cynllun llifogydd mewn ffolder gwrth-ddŵr a'i roi mewn man diogel sy'n hawdd ei gyrraedd.
Paratowch becyn llifogydd o bethau hanfodol y byddai eu hangen arnoch yn ystod llifogydd, neu rhag ofn bod rhaid ymgilio, gan gynnwys dillad gwrth-ddŵr cynnes ac unrhyw feddyginiaeth y byddech eu hangen.
Mwy o adnoddau
Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyngor am sut i baratoi eich cartref, busnes neu fferm ar gyfer llifogydd (gwefan allanol).
Mae Blue Pages (gwefan allanol) yn gyfeirlyfr o gynnyrch a gwasanaethau llifogydd i eiddo a luniwyd i’ch cynghori a’ch hysbysu am yr hyn sydd ar gael i helpu i leihau’r perygl o lifogydd i’ch cartref neu eich busnes.
Gall y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (gwefan allanol) helpu i gefnogi a chynrychioli pobl sydd mewn perygl o lifogydd (rhif ffôn: 01299 403 055).