Tywydd eithafol

Gwybodaeth a chyngor am sut i ddelio â thywydd eithafol.

Gaeaf

Gyrru'n ddiogel yn y gaeaf

Graeanu'r ffyrdd

Rydym yn taenu halen ar ffyrdd i atal rhew rhag ffurfio bob nos pan ragwelir rhew neu amodau rhewllyd.

Gwybodaeth am ba ffyrdd rydym yn eu graeanu.

Gyrru mewn tywydd gaeafol

Dylech bob amser yrru yn ddiogel yn unol ag amodau'r tywydd, os yw'r ffordd wedi cael ei graeanu ai peidio.

Cyngor ar sut i yrru'n ddiogel mewn tywydd gaeafol.

Pecyn argyfwng ar gyfer eich car

Sicrhewch fod gennych becyn argyfwng yn eich car, rhag ofn i chi dorri i lawr neu fynd yn sownd. Dylai'r pecyn gynnwys:

  • Cot gynnes, het a menig ychwanegol
  • Esgidiau gaeaf addas
  • Blanced neu fag cysgu
  • Torsh a batris ychwanegol, neu dorsh y gallwch ei weindio
  • Rhaw, cadwyn neu raff dynnu
  • Sgrafellwr ar gyfer y sgrin wynt, gwifrau cyswllt (Jump leads), ffôn symudol a batris
  • Radio sy’n rhedeg ar fatris a batris ychwanegol, neu radio y gellwch ei weindio

Llifogydd

Gael cyngor ar sut i ddelio â llifogydd.

Gwnewch eich cartref yn ddiogel

Paratowch i oroesi yn eich cartref ar eich pen eich hunan, heb help o’r tu allan, am o leiaf tri diwrnod. Casglwch becyn cyflenwad a sicrhewch eich bod yn cynnwys eitemau sy’n benodol i’r gaeaf, megis halen craig i doddi rhew a thywod i wella tyniant, rhaw eira neu gyfarpar arall i glirio eira. Cadwch stoc o fwyd a dŵr yfed ychwanegol.

Os oes peryg i’ch tŷ gael ei ynysu, dyma ychydig o gyngor defnyddiol:

  • Sicrhewch fod gennych ddigon o danwydd gwresogi - efallai y bydd eich ffynhonnell danwydd arferol yn stopio. Hefyd dylech gael cyfarpar gwresogi brys ynghyd â digon o danwydd ar ei gyfer, rhag ofn y bydd y cyflenwad trydan yn stopio - megis tân nwy symudol, ffwrn llosgi coed, lle tân neu wresogydd paraffin
  • Cadwch bob gwresogydd o leiaf dair troedfedd i ffwrdd o wrthrychau fflamadwy. Sicrhewch fod digon o awyriad wrth ddefnyddio gwresogyddion paraffin er mwyn osgoi cael nwyon gwenwynig yn casglu, a dylech ail lenwi’r tanwydd y tu allan bob tro
  • Cadwch ddiffoddwyr tân wrth law a sicrhewch fod pawb yn y tŷ yn gwybod sut i’w defnyddio. Peidiwch byth â llosgi siarcol y tu mewn
  • Sicrhewch fod eich waliau a’ch atigau wedi eu hinsiwleiddio cyn y gaeaf
  • Yn ystod storm, gwrandewch ar y sianel radio a theledu lleol am adroddiadau ar y tywydd a gwybodaeth brys
  • Bwytwch yn rheolaidd ac yfwch digon o ddŵr, ond osgowch gaffein ac alcohol
  • Gwisgwch ar gyfer y tymor gyda nifer o haenau o ddillad llac, ysgafn a chynnes yn hytrach nag un haen o ddilledyn trwm. Dylai’r haen allanol wrthyrru dŵr. Mae mits yn gynhesach na menig. Gwisgwch het bob amser - collir y rhan fwyaf o wres y corff o dop eich pen
  • Peidiwch â gorflino wrth rawio eira, gall achosi trawiad ar y galon
  • Gwyliwch am arwyddion o ewinrhew: colli teimlad, golwg gwyn neu lwyd mewn achosion eithafol. Os canfyddir y symptomau, ceisiwch help meddygol ar unwaith
  • Gwyliwch am arwyddion hypothermia: crynu’n ddi-baid, colli cof, dryswch, siarad yn aneglur, syrthni a blinder. Os canfyddir y symptomau, ewch a’r person i fan cynnes, tynnwch unrhyw ddillad gwlyb, cynheswch ganol y corff yn gyntaf, rhowch ddiod di-alcohol cynnes i’r dioddefwr os yw’n ymwybodol. Ceisiwch help meddygol cyn gynted ag y bo modd

Clirio rhew ac eira eich hun

Gall unrhyw un glirio eira a rhew oddi ar y palmant tu allan i'w cartref neu fannau cyhoeddus i atal baglu a syrthio.

Peidiwch â pheidio clirio llwybrau gan eich bod ofn bydd rhywun yn brifo. Cofiwch, mae'n gyfrifoldeb ar bobl sy'n cerdded ar eira a rhew i fod yn ofalus. Mae'n annhebygol y cewch eich siwio neu eich dal yn gyfreithiol gyfrifol am yunrhyw anafiadau os ydych wedi clirio'r llwybr yn ofalus.

Cyngor ar glirio rhew ac eira.

Rhoi gwybod am broblem gydag eira, rhew neu raenu ffyrdd

Tywydd poeth

Mynnwch gyngor ar gyfer cadw'n ddiogel yn y gwres gan GIG Cymru (gwefan allanol).