Beth ddylwn i ei wneud â chynnyrch gofal dannedd?

Gall cynnyrch gofal dannedd (yn cynnwys tiwbiau past dannedd gwag, hen frwshys dannedd a chynnyrch sydd â phecynnau o ddeunyddiau cymysg) gael eu hailgylchu gan TerraCycle.

Darganfod mwy am Raglen Ailgylchu Gofal Dannedd Colgate TerraCycle (gwefan allanol) yn cynnwys pwyntiau casglu lleol.

Maent yn derbyn pob brand, nid Colgate yn unig.

TerraCycle (gwefan allanol)

O bryd i’w gilydd, bydd gwneuthurwyr cynnyrch sy’n anodd eu hailgylchu’n gweithio gyda chwmni o’r enw Terracycle i gynnig mannau gollwng lleol neu labeli postio ar gyfer eu cynnyrch.

Gallwch ddarganfod a yw eitem yn cael ei dderbyn a lleoliad eich man gollwng agosaf drwy ymweld â gwefan Terracycle (gwefan allanol). Mae’r lleoliadau hyn fel arfer yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr unigol ac yn amodol ar newid.