Beth ddylwn i ei wneud â hylif oeri injan?

Symbol deunyddiau peryglus

Mae hylif oeri injan yn cael ei gyfrif yn wastraff peryglus. Nid ydym yn ei gasglu nac yn darparu ffordd o gael gwared ag o.

Chwiliwch am wasanaeth gwaredu gwastraff peryglus lleol ar-lein.

Gwiriwch fod gan eich gweithredwr dewisol drwydded i dderbyn/cludo eich gwastraff a chadwch gofnod o’ch trafodion (megis derbynneb).

Gallwch wirio a yw’r contractwr yn gludydd gwastraff, brocer neu ddeliwr trwyddedig drwy ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru (gwefan allanol).

Gofynnwch i’r gweithredwr i ble mae eich gwastraff yn mynd a chadwch gofnodion (megis manylion eu gwefan/rhif ffôn a rhif cofrestru’r cerbyd). Peidiwch â chaniatáu i gontractwr preifat gymryd neu dderbyn eich gwastraff oni bai eich bod yn fodlon ei fod yn cael ei waredu mewn modd cyfrifol.