Polisi casglu gwastraff / cerbydau ailgylchu ar ffyrdd preifat (heb eu mabwysiadu)

  1. O dan Adran 46 Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 (rhan II) gall yr Awdurdod Casglu Gwastraff, sef Cyngor Sir Ddinbych, ddweud sut a lle y dylai preswylwyr roi eu sbwriel allan i'w gasglu. Mae peidio cydymffurfio yn drosedd o dan y Ddeddf.
  2. Bydd y penderfyniad (i deithio neu beidio teithio ar ffyrdd heb eu mabwysiadu) yn dibynnu ar y Rheolwr - ar sail y Meini Prawf canlynol:
    1. Asesiad risg gan y Rheolwr Gwasanaeth, yn benodol am y peryglon canlynol:
      • Risg Iechyd a Diogelwch (gyrru ar yn ôl mewn llefydd cyfyng etc.)
      • Risg o beri difrod i asedau sydd ddim yn eiddo i'r Cyngor Sir gan gynnwys strwythur y ffordd / gorchuddion wyneb ffordd / cerbydau wedi parcio / dodrefn stryd etc.
    2. Ystyriaethau gan gynnwys:
      • A yw hi'n hawdd neu beidio i ddefnyddio’r ffordd sydd heb ei mabwysiadu.
      • Unrhyw ystyriaethau eraill.
  3. Ym mhob achos lle bydd preswylwyr yn gwneud tybiaeth gywir neu beidio am ble i roi eu gwastraff i'w gasglu - dylid rhoi gwybod yn ffurfiol beth yw gofynion yr Awdurdod Casglu Gwastraff.
  4. Mae'r Gwasanaethau Amgylcheddol wedi paratoi nodiadau cynllunio i egluro'r gofynion arferol (i wahanol fathau o ddatblygiad) am gasglu gwastraff. Caiff hyn ei ddiweddaru pryd ac yn ôl y galw.