Clytiau go iawn

Bydd y babi cyffredin yn defnyddio 5,000 o glytiau. Ni ellir ailgylchu clytiau tafladwy na’u hailddefnyddio ac mae’n rhaid iddyn nhw fynd i dirlenwi, lle byddan nhw’n aros am gan mlynedd. Yng Nghymru bydd tua 200 miliwn o glytiau’n cael eu taflu bob blwyddyn. Mae Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i ddefnyddio clytiau amldro modern ‘go iawn’ i arbed arian a helpu’r amgylchedd.

Sut all y cyngor helpu?

Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych neu Sir y Fflint ac mae eich plentyn rhwng 1 a 18 mis oed, fe allech fod â hawl i dalebau sy’n werth hyd at £75 i’w defnyddio mewn rhandaliad ar gyfer prynu clytiau go iawn neu Wasanaeth Londri Clytiau Go Iawn.

Sut allaf i ymgeisio?

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a darparu copi o’ch tystysgrif geni yn ogystal â dau fil gwasanaeth diweddar neu hysbysiad o dreth cyngor. Rydyn ni’n awr yn derbyn y MAT B1 yn lle tystysgrif geni gan rieni sy’n dymuno ymgeisio am dalebau cyn geni’r babi.

Gwneud cais am daleb clytiau

Ym mhle y gallaf i ddefnyddio'r talebau?

Byddwch yn derbyn talebau sy’n werth £25 yr un, i’w defnyddio pan fydd eich babi’n 0-3 mis oed, 4-9 mis a 10-18 mis oed. Gellir defnyddio’r talebau efo’r cwmnïau canlynol: