Compostiwr cartref

Nid ydym bellach yn cynnig biniau compost.

Beth sydd i’w roi yn y bin compost?

  • crwyn llysiau a ffrwythau
  • dail te, coffi mâl a phlisgyn wyau 
  • chwyn
  • gwallt
  • papur
  • tail anifeiliaid 
  • clipiadau bythwyrdd
  • dail
  • tociadau 
  • llwch sugnwr llwch
  • gwellt a gwair
  • toriadau gwair

Nid yw’r eitemau canlynol yn compostio’n dda a/neu fe allan nhw fod yn niweidiol i’r broses o gompostio:

  • hylifau’r corff
  • clytiau tafladwy
  • hancesi papur wedi eu defnyddio
  • carthion - dynol/cathod/cŵn
  • cerdyn neu bapur o liwiau llachar neu sgleiniog
  • cerrig
  • gwydr
  • metel
  • plastig
  • hylifau glanhau a chemegau eraill y cartref/yr ardd
  • cig
  • planhigion sydd ag afiechyd