Strategaeth Gaffael a Rheolau

Gwybodaeth am strategaeth gaffael a rheolau Sir Ddinbych.

Strategaeth Gaffael

Ar hyn o bryd rydym yn gwario oddeutu £100 miliwn y flwyddyn gyda sefydliadau preifat a thrydydd sector ar y nwyddau, gwasanaethau a’r gwaith sydd ei angen er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Ein cyfrifoldeb ni yw rheoli'r arian hwn yn effeithiol ac yn effeithlon er mwyn cyflawni amcanion y Cyngor. Mae’n Strategaeth Gaffael yn nodi sut rydym yn newid caffael a chomisiynu o fewn y Cyngor drwy:

  • Sefydlu cyfeiriad strategol clir a blaenoriaethau ar gyfer newid;
  • Sefydlu egwyddorion polisi caffael a chomisiynu allweddol
  • Nodi'n glir beth yr ydym am ei wneud a pham

Strategaeth gaffael a chomisiynu

Rheolau Gweithdrefn Gontractau Cyngor Sir Ddinbych

Mae caffael gan y Cyngor yn cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth fanwl y DU, ac mae’r gyfraith yn gofyn bod holl gaffael a chontractio'r Cyngor yn cael ei wneud yn dryloyw, yn deg ac mewn modd anwahaniaethol. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, mae cyfres o Reolau'r Weithdrefn Gontractau wedi eu datblygu. Mae’r rheolau hyn yn sefydlu prosesau a gweithdrefnau clir er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu yn gyfreithlon ac yn deg, ac yn ein cynorthwyo ni i gael gwerth am arian.

Reolau'n gweithdrefn gontractau