Crynodeb adfywio dinas Llanelwy

Mae’r dudalen yn darparu gwybodaeth am brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer Llanelwy yn ogystal â phrosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd yn cynnwys prosiectau adnewyddu sylweddol mewn ardaloedd cyfagos sy’n gallu cael effaith ar y dinas.

Cyflwyniad i Lanelwy

Llanelwy yw’r ail ddinas leiaf yn y DU, a’r unig ddinas yn Sir Ddinbych.

Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswylwyr ar gyfer yr ardal yn oddeutu 3,500 o bobl. 

Mae Llanelwy yn adnabyddus am ei Chadeirlan gyda phensaernïaeth o’r 13 ganrif. Mae’r Gadeirlan yn weladwy ac yn hygyrch o’r stryd fawr.

Dros y degawdau diwethaf, mae’r ddinas fechan wedi ffynnu, gydag agoriad yr A55 yn yr 1970au ac yn fwy diweddar gydag adeiladu’r Parc Busnes sydd wedi gweld buddsoddiad cenedlaethol a rhyngwladol. 

Mae’n stryd fawr fechan gyda nifer o eiddo gwag a gall deimlo’n brysur iawn gyda thraffig ffyrdd. 

Prosiectau adfywio

Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod mwy am y prosiectau adfywio ar gyfer Llanelwy.

Dyddiad adolygu diwethaf

Cafodd yr wybodaeth hon ei diweddaru diwethaf ym mis Tachwedd 2024.