Cynllun Amddiffyn Arfordirol Dwyrain Y Rhyl

Bydd Cynllun Amddiffyn Arfordirol Dwyrain y Rhyl, a ariannwyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, yn amddiffyn 1,650 o eiddo yn Nwyrain y Rhyl rhag llifogydd arfordirol.

Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain Rhyl

Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2020 ac roeddent i fod i orffen ym mis Rhagfyr 2022, fodd bynnag, mae’r cynllun wedi'i gwblhau’n gynnar.

Bydd gosod 128,000 tunnell o amddiffynfeydd meini o flaen yr amddiffynfeydd morol presennol yn Nwyrain y Rhyl a’r 600 metr o forglawdd amddiffynnol a phromenâd sydd newydd eu hychwanegu yn amddiffyn yr ardal rhag stormydd presennol ac effaith newid hinsawdd.

Y prif gontractwyr, Balfour Beatty, wnaeth mwyafrif y gwaith.

Cynllun Amddiffyn Arfordirol Dwyrain y Rhyl (Ar y Gweill)

Roedd manteision cymunedol o’r cynllun yn cynnwys gât mynediad i’r traeth yn Old Golf Road i’w ddefnyddio ar benwythnosau, gwaith adnewyddu yn Splash Point a chyfrannu Grwynau i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) ar gyfer eu hardal goffa ac i Gyfeillion y Cob ar gyfer safle Glan Morfa.

Roedd manteision eraill yn cynnwys defnyddio cadwyn gyflenwi Gogledd Cymru ar gyfer danfon meini, sesiwn fentora dros y we gyda Sir Ddinbych yn Gweithio i helpu’r rhai sy’n chwilio am waith yn y diwydiant adeiladu a chyfraniadau i Fanc Bwyd Sussex Street.

Adroddiad gwerth ychwanegol adeiladu

Cyflogaeth a sgiliau

  • 85% o gyflogaeth leol o fewn 40 milltir (yn erbyn targed o 75%)
  • 99% o wariant isgontractwyr lleol o fewn 40 milltir (yn erbyn targed o 75%)
  • 86% o'r gadwyn gyflenwi sy'n MBCh (Mentrau bach a chanolig)
  • 45/50 Sgôr Adeiladwyr Ystyriol
  • 8 o swyddi newydd
  • 191 diwrnod o brofiad gwaith i bobl leol
  • 112 o fyfyrwyr yn ymgysylltu drwy weithgareddau'r cwricwlwm

Gwerth ychwanegol cyffredinol

£10,154,578 cyfanswm gwerth am arian (gan gynnwys gwerth cymdeithasol)

Gwerth cymdeithasol

£7,201,813 gwerth cymdeithasol ychwanegol (wedi'i wirio'n annibynnol gan y Porth Gwerth Cymdeithasol)

Arbedion caffael

£350,000 arbedion i Sir Ddinbych drwy ddefnyddio'r fframwaith

Iechyd a diogelwch

  • 100% diogelwch (dim RIDDORs)
  • 133,000 o oriau wedi'u gweithio heb LTI (Anafiadau Amser Coll)

Heriau

  • Arllwys 1,790 metr ciwbig o goncrit - cyfwerth â phwysau 95,452,843 bar siocled Dairy Milk Cadbury!
  • Gosod 150,000 tunnell o amddiffynfeydd meini - sy'n cyfateb i bwysau 8333 o fysiau deulawr!

Buddion amgylcheddol

  • 80% o ddeunyddiau wal gynnal craig yn dod o ffynonellau lleol
  • Gostyngiad o 82% mewn allyriadau CO2 ar y safle oherwydd system Econet arloesol
  • 99% o wastraff wedi’i ddargyfeirio o safle tirlenwi
  • Darparu 100 mlynedd o amddiffyniad effeithiol a pharhaus rhag erydu arfordirol a llifogydd
Cynllun Amddiffyn Arfordirol Dwyrain y Rhyl: Adroddiad gwerth ychwanegol adeiladu (Cyflogaeth a sgiliau)
Cynllun Amddiffyn Arfordirol Dwyrain y Rhyl: Adroddiad gwerth ychwanegol adeiladu (Gwerth ychwanegol cyffredinol, gwerth cymdeithasol, arbedion caffael ac iechyd a diogelwch)
Cynllun Amddiffyn Arfordirol Dwyrain y Rhyl: Adroddiad gwerth ychwanegol adeiladu (Heriau a buddion amgylcheddol)

JBA Consulting Balfour Beatty logo Welsh Government logo