Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol Y Rhyl: Cais cynllunio
Mae'r cais cynllunio ar gyfer Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol Y Rhyl, o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, wedi'i gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ac mae bellach ar gael i'w weld ar-lein. Cyfeirnod y cais yw 45/2022/0271.
Os oes gennych sylwadau sy'n ymwneud â'r cais cynllunio, dylid eu cyfeirio at Adran Gynllunio Cyngor Sir Ddinbych.