Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Gwybodaeth am giatiau llifogydd arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn.
Mae'r giatiau llifogydd arfordirol ar hyd cynllun amddiffynfeydd Prestatyn a’r Rhyl yn cael eu defnyddio i selio ardaloedd o amddiffynfeydd y môr sydd yn is er mwyn galluogi mynediad cyhoeddus i’n traethau.
Mae’r giatiau yn gweithredu fel gorchuddion dros dro y gellir eu symud sydd wedi’u dylunio i atal llif dŵr o ymchwyddiadau stormydd, llanw uchel a llifogydd rhag effeithio ar gartrefi, busnesau a seilwaith arfordirol diamddiffyn sydd y tu ôl i’r amddiffynfeydd llifogydd ehangach.
Mae rhai o giatiau llifogydd arfordirol Sir Ddinbych yn cael eu cau dros fisoedd y gaeaf oherwydd risg uwch o dywydd gwael. Serch hynny, dim ond pan fydd stormydd yn y rhagolygon tywydd a allai effeithio ar gymunedau ger y môr yn y Rhyl a Phrestatyn y mae giatiau llifogydd eraill yn cael eu cau.
Mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu giatiau llifogydd sydd ar gau’n barhaol yn Arena Digwyddiadau y Rhyl, ac fe ellir eu hagor i gael mynediad ar frys i’r promenâd.
Mae'r map isod yn dangos y giatiau llifogydd arfordirol ar hyd cynllun amddiffynfeydd Prestatyn a'r Rhyl.
Gweld ar fap mwy (Mapiau Google)
Mae'r tabl isod yn cynnwys manylion am giatiau llifogydd arfordirol Prestatyn a'r Rhyl, yn cynnwys eu lleoliadau ar 'what3words' (gwefan allanol).
Browser does not support script.