Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cynyddu lefelau cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol ar draws Sir Ddinbych
Arweinydd y Prosiect: Cwmpas
Trosolwg o’r prosiect
Bydd y prosiect hwn yn cynnig cefnogaeth i unigolion â chynhwysiant digidol .
Bydd cefnogaeth yn cael ei roi ar ffurf cyngor a hyfforddiant cynhwysiant digidol a bydd dyfeisiau addas yn cael eu darparu i unigolion yn dibynnu ar eu hanghenion.
Bydd cefnogaeth yn cael ei darparu mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys:
- galwadau ffôn i addysgu pobl sut i ddefnyddio gwefannau ac apiau
- dosbarthiadau digidol mewn cymunedau
- grantiau neu dalebau ar gyfer offer a/neu ddata
- atgyfeirio unigolion i wasanaethau cyflogadwyedd ac addysg bellach
Hyder Digidol Sir Ddinbych
Mae Cwmpas yn cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein er mwyn helpu pobl i gael cymorth digidol. Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau, gan gynnwys sut i archebu lle, ar wefan Cwmpas.
Ewch i wefan Cwmpas (gwefan allanol)