Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Gwella’r Parth Cyhoeddus a Mannau Agored
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Trosolwg o’r prosiect
Nod y prosiect hwn yw gwella ardaloedd hamdden ledled y sir gyda ffocws ar y canlynol:
- Gwelliannau i’r parth cyhoeddus yn Bastion Road, Prestatyn a Pharc Glan yr Afon, Llangollen gan gynnwys:
- amnewid ac uwchraddio celfi stryd megis:
- biniau
- meinciau picnic
- arwyddion seddi
- gwelliannau amgylcheddol fel uwchraddio rheiliau a bolardiau dur a fydd hefyd yn gwella hygyrchedd i’r ardal
- Adfywio ardaloedd hamdden yng Ngerddi Botanegol, Y Rhyl, gan gynnwys:
- newid ffensys terfyn a’r giât ddiogelwch
- gwelliannau amgylcheddol ac isadeiledd ym mhob rhan o’r parc