Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Gwelliannau i deledu cylch caeedig mewn mannau cyhoeddus

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.

Trosolwg o’r prosiect

Uwchraddio camerâu teledu cylch caeedig presennol sydd wedi mynd yn hen mewn mannau cyhoeddus ym mhrif drefi gogledd Sir Ddinbych, gan gynnwys meysydd parcio a gorsafoedd bysiau.

Bydd y prosiect yn cynnwys prynu camerâu parod i ddarparu opsiwn dros dro mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol, a rheoli’r prosiect.

Diweddariad y prosiect

Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar uwchraddio teledu cylch caeedig yn y Rhyl, Prestatyn a Rhuddlan. Darparodd 43 o welliannau cymunedol, gan ddiweddaru a gwella arferion monitro, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a lleihau trosedd.