Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cynllun Grantiau Cymunedol a Rhaglen Celfyddydau Creadigol

Arweinydd y Prosiect: Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig
Trosolwg o’r prosiect
Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf. mewn 2 ran:
Rhan 1 - Cynllun Grantiau Cymunedol, sy’n ceisio galluogi sefydliadau llai, fel clybiau chwaraeon lleol a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol i:
- ymgeisio am gyllid i gefnogi gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol lleol
- cefnogi cyfleusterau chwaraeon lleol, cynnal twrnameintiau, datblygu a sefydlu timau a chynghreiriau newydd
Rhan 2 - Rhaglen Celfyddydau Creadigol a fydd yn gweithio â phartneriaid trydydd sector allweddol a phartneriaid cymunedol ac iechyd i ddarparu rhaglen gyfranogol y celfyddydau mewn iechyd a lles, mewn lleoliadau cymunedol, gofal cymdeithasol ac iechyd.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Mae Prosiectau’r Celfyddydau a Grantiau Cymunedol yn Sir Ddinbych wedi cael effaith bellgyrhaeddol ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon a lles cymunedol.
Yn rhan o’r Prosiect Celf Cymunedol cynhaliwyd 425 o weithdai yn ymwneud â thros 2,000 o unigolion, gan gynnwys cleifion dementia, ffoaduriaid a theuluoedd ADY, gyda 4,934 yn bresennol.
I ategu hyn, cefnogwyd 70 o sefydliadau gan 140 o grantiau cymunedol; yr oedd 39% o’r sefydliadau’n glybiau chwaraeon yn Sir Ddinbych.
Cefnogwyd 270 o ddigwyddiadau lleol gan gyllid hefyd, a chrëwyd 681 o gyfleoedd gwirfoddoli newydd.
Gyda’i gilydd, bu’r mentrau hyn yn gyfrifol am wella bywiogrwydd diwylliannol, gweithgarwch corfforol a chydlyniant cymunedol ledled Sir Ddinbych.
Mawrth 2024
Dyma rai o’r prif weithgareddau sydd wedi’u cynnal hyd yma o ganlyniad i’r cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin:
- Sesiynau wythnosol Ymgolli mewn Celf i bobl sy’n byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a gynhelir yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Mae’r cyfranogwyr yn gweithio ag artistiaid proffesiynol ac yn dwyn ysbrydoliaeth o’r arddangosfeydd yn yr oriel wrth lunio eu gwaith creadigol eu hunain.
- Elusen yw KIM-Inspire sy’n darparu cymorth iechyd meddwl proffesiynol yng nghymuned Prestatyn. Gall pobl leol gyfeirio’u hunain at y gwasanaeth a chael cefnogaeth gan dîm KIM-Inspire. Bu prif artist DLL yn gweithio gydag un o’r grwpiau i wella eu lles drwy ymyriadau creadigol.
- Mae DLL yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gerdd William Mathias, elusen sy’n gweithio ledled gogledd Cymru i ddarparu hyfforddiant cerddorol, llwyfannu perfformiadau a darparu cyfleoedd creadigol. Cynhelir sesiynau bob wythnos ar Zoom i bobl yn Sir Ddinbych ag anableddau dysgu. Mae’r cyfranogwyr yn garfanau o bobl sy’n derbyn cymorth gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych a phobl sy’n byw ag anableddau dysgu mewn amryw ganolfannau.
- Mae DLL yn darparu’r sesiynau yng nghanolfannau gofal ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych a Llys Awelon yn Rhuthun mewn partneriaeth â Chanolfan Gerdd William Mathias a Grŵp Cynefin. Cynhelir y sesiynau dan arweiniad Therapydd Cerdd cymwys a’u nod yw helpu i annog pobl i gysylltu â’i gilydd a hybu eu lles.