Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru

Arweinydd y Prosiect: Uchelgais Gogledd Cymru
Trosolwg o’r prosiect
Nod y prosiect yw bod pobl, busnesau a chymunedau ledled gogledd Cymru’n elwa i’r eithaf ar y buddion a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y buddsoddiadau sy’n gysylltiedig â’r Weledigaeth Twf, gan gynnwys Bargen Dwf Gogledd Cymru.
Mae’r prosiect yn dilyn Prosiect Galluogi’r Weledigaeth Twf a ariannwyd drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’i nod yw sefydlu adnodd rhanbarthol yn sail ar gyfer cyflawni’r Weledigaeth Twf ar gyfer gogledd Cymru. Canolbwyntir ar bump o ffrydiau gwaith allweddol:
- cydweithio rhanbarthol
- sgiliau
- digidol
- ynni a sero net
- buddion a gwerth cymdeithasol
Bydd y prosiect yn cynnal amryw weithgareddau a chynlluniau er mwyn sicrhau y manteisir i’r eithaf ar gyfleoedd fel hyn a bod cymunedau ledled y rhanbarth yn gweld y buddion.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Gan ddarparu canlyniadau cryf mewn cysylltedd digidol, datblygu sgiliau a chynllunio carbon isel, mae’r prosiect hwn yn Sir Ddinbych wedi cyflawni’r lefel ymgysylltu uchaf ar draws gogledd Cymru, gan gyrraedd 142 o unigolion.
Roedd yr allbynnau allweddol yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer mentrau, astudiaethau dichonoldeb, sesiynau hyfforddiant a datblygu sgiliau bywyd. Mae Sir Ddinbych hefyd wedi cyfrannu at wella isadeiledd digidol a throsglwyddo gwybodaeth, ac mae sefydliadau lleol wedi cael mynediad at gefnogaeth ar gyfer cynlluniau datgarboneiddio.