Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cymru Gynnes - Cefnogi Cymunedau
Arweinydd y Prosiect: Cymru Gynnes
Trosolwg o’r prosiect
Bydd y cynllun peilot hwn yn gweithio â chymunedau yn Sir Ddinbych, gan gynnwys blynyddoedd 5, 8, 9 a 10 mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a phreswylwyr â phob mathau o ddaliadaeth. Bydd yn edrych ar bobl, eiddo, llefydd a phartneriaethau er mwyn
- annog gweithredu cymdeithasol i wella lles, hyder a sgiliau pobl
- annog gwirfoddoli sy’n cael mwy o effaith, gweithio â’r gymuned ehangach i addysgu pobl, codi ymwybyddiaeth pawb o effeithlonrwydd ynni, technoleg werdd ac effaith tlodi tanwydd a’r argyfwng costau byw
- darparu cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim i bobl leihau eu biliau ynni a defnyddio ynni’n fwy effeithlon