Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Garddwriaeth Cymru

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.
Trosolwg o’r prosiect
Bydd y prosiect yn datblygu ar sail hanes llwyddiannus Garddwriaeth Cymru o sefydlu Clystyrau a byrhau cadwyni cyflenwi, fel y cadarnhawyd drwy asesiad annibynnol (Miller, Gorffennaf 2021).
Drwy hwyluso cydweithio mewn clystyrau, bydd y prosiect yn sefydlu clystyrau cymunedol ac yn gweithio â busnesau bach a chanolig, cwmnïau buddiannau cymunedol ac ysgolion yn ardaloedd y tri o gynghorau sir, er mwyn sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf yn hygyrch i bawb er budd cymunedau a’r economi.
Bydd y prosiect yn hwyluso mynediad at gynnyrch lleol, atgyfnerthu cadwyni cyflenwi, hybu cyfranogiad, codi ymwybyddiaeth ac yn annog pobl i gyfranogi a gwirfoddoli yn eu hamgylchedd naturiol lleol, gan hefyd addysgu cymunedau ynglŷn â’r effaith y gall garddwriaeth ei chael ar les.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Mae prosiect Garddwriaeth Cymru, dan arweiniad Prifysgol Wrecsam, wedi darparu canlyniadau effeithiol yn Sir Ddinbych drwy arddwriaeth gynaliadwy, hydroponeg, ac ymgysylltiad cymunedol.
Mae wedi rhagori ar y targedau drwy gefnogi 198 o unigolion â sgiliau bywyd, plannu 303 o goed, a gwella 18 o asedau.
Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gweithdai bioamrywiaeth a thechnolegau cnwd, ail-leoli perllannau a phlannu coed, gydag ymgysylltiad cryf gan ysgolion a grwpiau cymunedol.
Roedd y prosiect yn gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol, cefnogi cynhyrchiant bwyd lleol, ac yn maethu cydlyniant cymunedol drwy ddigwyddiadau megis Diwrnod Blodau’r Berllan a mentrau arloesol megis oergelloedd clyfar yn cynnig micro lysiau gwyrdd am ddim.
Mawrth 2024
Cyhoeddodd Garddwriaeth Cymru ddatganiad i’r wasg ganol mis Chwefror yn sôn am ehangu eu cyfleusterau gyda chyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sydd wedi diogelu dyfodol y prosiect tan fis Rhagfyr 2024.
Darllenwch y datganiad i’r wasg yn llawn (gwefan allanol)