Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Parc Gwledig Bodelwyddan

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn datblygu Parc Gwledig ar goetir/parcdir ger Castell Bodelwyddan.

Bydd parc cwbl hygyrch yn cael ei greu i annog trigolion Sir Ddinbych/Conwy i ymweld dro ar ôl tro, ynghyd ag ymwelwyr i’r ardal.

Bydd y prosiect yn rhoi cyfle i bobl dreulio amser yn yr awyr agored a mwynhau cyfleusterau o safon, yr amgylchedd naturiol, asedau treftadaeth a golygfeydd gwych o dirlun arbennig Gogledd Cymru.

Diweddariad y prosiect

Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu isadeiledd ar gyfer parc gwledig newydd.

Darparodd dros 19,000 m² o fannau gwyrdd, a 2 km o lwybrau troed, a phlannu 7,150 o goed.  Mae wedi cyfrannu at fioamrywiaeth, hygyrchedd, a photensial twristiaeth. 

Mawrth 2024

Penodwyd Ceidwad Cefn Gwlad llawn-amser sydd â chyllideb neilltuol ar gyfer rheoli Parc Gwledig Bodelwyddan a gwneud gwaith cynnal a chadw yno. Diben y swydd yw sicrhau y caiff y Parc newydd hwn ei gynnal mewn cyflwr tra graenus a denu digon o wirfoddolwyr i fedru agor y Parc yn 2025.

Cyflwynwyd cais cynllunio ym mis Mai 2023 ac yn sgil gwrthwynebiadau bu’n rhaid diwygio’r cynllun, ond nid yw hynny’n effeithio ar weithredu’r prosiect fel y nodir yn y cais. Cyflwynwyd y cais cynllunio drachefn ac fe’i cymeradwywyd.

Bydd gwaith ar y safle’n dechrau ar ôl mis Ebrill 2024.