Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Prosiect Creu Coetir Sir Ddinbych
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Trosolwg o’r prosiect
Mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella ac ychwanegu at tua 55.5 hectar o dir sy’n eiddo i’r Cyngor ar gyfer storio carbon, bioamrywiaeth a’r gymuned.
Bydd yn creu mwy o goetir llydanddail a chyfoeth o rywogaethau ar 5 ardal werdd mewn amrywiaeth o leoliadau, o ardaloedd preswyl trefol i fryniau’r ucheldir, yn ogystal â gwell mynediad i’r gymuned at fannau gwyrdd a natur ar gyfer hamdden, lles, addysg a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd hefyd yn cyfrannu at uchelgeisiau’r Cyngor a rhai cenedlaethol i fod yn ddi-garbon net ac yn fwy ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.