Cam 1: Sut i gyflwyno prosiect manwl

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Mae'r alwad gyntaf am brosiectau UKSPF yng ngogledd Cymru bellach ar gau.

Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.

Nod cyffredinol y Gronfa yw:

Meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd

Nod yr UKSPF yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle;
  • Cefnogi Busnes Lleol; a,
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion)

Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (gwefan allanol) yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa.

Mae’r holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r Gronfa a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU (gwefan allanol)

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru

Bydd pob rhan o’r DU yn cael rhywfaint o’r cyllid, sy’n cael ei ddyrannu i ardaloedd unigol yn seiliedig ar fformiwla. Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am gyflwyno'r Gronfa.

Yng Nghymru, rhaid i ardaloedd lleol weithio gydag eraill o fewn eu rhanbarth i ddarparu'r Gronfa. Mae Rhanbarth Gogledd Cymru yn cynnwys siroedd Wrecsam, Fflint, Dinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae cyfanswm o £126.46 miliwn wedi'i ddyrannu o'r UKSPF i Ogledd Cymru. Mae'r cyfanswm yn cynnwys £21.84 i miliwn y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi rhifedd oedolion (y rhaglen Lluosi). Mae £4.44 miliwn o'r cyfanswm yn amodol ar gadarnhad.

Mae’r dyraniad ar gyfer pob ardal Awdurdod Lleol unigol fel a ganlyn:

  • Ynys Môn: £16,081,937
  • Gwynedd: £24,423,747
  • Conwy: £24,520,120
  • Sir Ddinbych: £25,647,958
  • Sir y Fflint: £13,102,933
  • Wrecsam: £22,684,205

Mae’r cyllid yn cynnwys arian cyfalaf a refeniw ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2025.

Ar 5 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yr arian yn dod i Ogledd Cymru, ond dim ond am un flwyddyn ariannol ar y tro y bydd yr arian yn cael ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU.

Cyflawni'r UKSPF yng Ngogledd Cymru

Er mwyn lleihau costau a chymhlethdod, bydd Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i weinyddu'r UKSPF. Fodd bynnag, bydd pob penderfyniad ar ble mae'r arian yn mynd yn cael ei wneud yn lleol ym mhob ardal.

Bydd y rhan fwyaf o'r arian yn cael ei ddosbarthu drwy grantiau i gefnogi sefydliadau i gyflawni prosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau lleol.

Mae'n bosib y bydd cyfleoedd yn y dyfodol i gyflwyno ceisiadau yn cael eu hagor - ym mhob un neu rai ardaloedd Awdurdod Lleol ac ar gyfer pob un neu rai meysydd gweithgaredd - os bydd arian yn parhau i fod ar gael.

Awdurdodau Lleol fydd yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gyda chyngor partneriaeth o randdeiliaid lleol.

Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am brosiectau sy'n cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol neu fwy. Bydd pob ardal yn penderfynu a ydynt am gefnogi cais neu ddim.

Yr hyn y bydd yr UKSPF yn ei gefnogi

Amlinellir yr amcanion ar gyfer tair blaenoriaeth buddsoddi'r UKSPF – cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau ym Mhrosbectws yr UKSPF (gwefan allanol)

Ar gyfer Cymru, caniateir 53 o ymyriadau UKSPF sy’n cwmpasu’r tair blaenoriaeth fuddsoddi a’r rhaglen Lluosi Rhestr Ymyriadau ar gyfer Cymru (gwefan allanol)

Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan yr UKSPF fynd i'r afael ag un, neu fwy, o'r ymyriadau hyn.

Rhaid i bob prosiect hefyd gyflawni un neu fwy o’r allbynnau a’r canlyniadau sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU:

Er mwyn darparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl, bydd Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn caniatáu i ymgeiswyr ddewis unrhyw un o'r allbynnau a'r canlyniadau a restrir sy'n berthnasol i'r flaenoriaeth / blaenoriaethau buddsoddi y mae eu prosiect yn mynd i'r afael â hwy.

Yn ogystal â dangos aliniad â’r UKSPF ei hun, rhaid i brosiectau sy’n ceisio cymorth yng Ngogledd Cymru:

  • dangos sut y maent yn ychwanegu gwerth at, ac wedi eu hintegreiddio â, gweithgaredd cyfredol ac arfaethedig yn y maes perthnasol, gan osgoi dyblygu;
  • fod wedi ymgysylltu â, a derbyn cefnogaeth gan, rhanddeiliaid perthnasol yn y maes gweithgaredd a'r ardaloedd y byddant yn gweithredu ynddynt;
  • helpu i wireddu - neu fod yn gydnaws â - polisïau a strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol; a,
  • deall a mynd i'r afael ag anghenion yr ardaloedd lleol y maent yn bwriadu gweithredu ynddynt a helpu i wireddu'r blaenoriaethau / strategaethau lleol perthnasol.

Gall strategaethau a chynlluniau rhanbarthol perthnasol gynnwys (nid rhestr gyflawn):

Mae gwybodaeth am y strategaethau a’r blaenoriaethau lleol ar gael ar wefan pob Awdurdod Lleol:

Pethau pwysig i'w gwybod

  • Mae'r amserlen ar gyfer cyflawni'r UKSPF yn fyr; yn ymarferol, bydd angen bob prosiect ddod i ben a chyflwyno'u hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024 , er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau'r rhaglen.
  • O ystyried y cyfnod byr sydd ar gael ar gyfer cyflawni, bydd Awdurdodau Lleol yn ceisio cefnogi nifer cymharol fach o brosiectau strategol a mwy eu maint. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir ceisio o leiaf £250,000 o arian UKSPF; mae'r Awdurdodau Lleol yn rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd prosiectau a gefnogir yn ceisio £1 miliwn neu fwy o arian UKSPF.
  • I alluogi busnesau, sefydliadau a chymunedau lleol sy'n ceisio symiau llai o gymorth cael mynediad at arian UKSPF; bydd y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yn ceisio sefydlu cronfeydd cyfryngol yn lleol, gan ddarparu trefn ymgeisio, cymeradwyo a monitro symlach. Bydd gwybodaeth am y cronfeydd hyn yn ymddangos ar wefannau Awdurdodau Lleol unigol pan fydd ar gael.
  • Fel y nodwyd yn flaenorol, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyraniadau UKSPF ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2025, dim ond yn flynyddol y caiff y cyllid ei gadarnhau. Bydd y cytundebau ariannu a ddarperir gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru i ymgeiswyr llwyddiannus yn adlewyrchu hyn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n ymrwymo i wariant y tu hwnt i’r cyfnod y caiff cyllid ei gadarnhau ar ei gyfer yn gwneud hynny ar ei risg eu hunain.
  • Dechreuodd y cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan yr UKSPF ar 1 Ebrill 2022. Gall ymgeiswyr felly gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn eu ceisiadau. Nodwch y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn arwyddo cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar risg eu hunain.
  • Mae’r UKSPF yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy'n ceisio cyfuniad o'r ddau.
  • Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y drefn (gwefan allanol)
  • O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflawni’r UKSPF, bydd hyder yn y gallu cynigion a gyflwynir i gyflawni yn ystyriaeth allweddol i Awdurdodau Lleol ochr yn ochr â chapasiti a gallu'r sefydliad sy’n ymgeisio

Dewis prosiectau

Gan adlewyrchu'r pwyslais gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru ar benderfyniadau lleol bydd pob ardal leol yn penderfynu sut y dymunant ddewis prosiectau ar gyfer cefnogaeth UKSPF.

Fodd bynnag, bydd ystyriaethau cyffredin yn cynnwys:

  • the alignment of proposals with UKSPF priority investments and interventions;
  • proposals' anticipated outputs and outcomes;
  • additionality and alignment of proposed projects with current and planned activity;
  • deliverability and the capacity / capability of the applicant (including awareness of legal and regulatory requirements)
  • alignment with national, regional and especially local strategies, priorities and needs;

Bydd ardaloedd lleol yn ystyried y cymysgedd cyffredinol o weithgareddau a gynigir yn ogystal â chynigion unigol, i sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion eu hardaloedd ac amcanion blaenoriaethau buddsoddi'r UKSPF.

Fel y nodwyd, bydd Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gan ystyried cyngor partneriaeth o randdeiliaid lleol. Bydd barn rhanddeiliaid allweddol o fewn y maes gweithgaredd mae'r prosiect am weithio ynddo hefyd yn cael ei geisio a'i ystyried.

Sut i wneud cais

Bydd ceisiadau am gyllid UKSPF yng Ngogledd Cymru yn dilyn proses dau gam:

  • Cam 1:  cyflwyno cais prosiect amlinellol - wedi cau
  • Cam 2:  cyflwyno cais prosiect manwl

Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau fydd:

  1. Bydd y cais yn cael ei werthuso gan y tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin lleol perthnasol (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol yn unig) neu dîm rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol).
  2. Gofynnir am farn rhanddeiliaid perthnasol.
  3. Bydd y Panel Cynghori Lleol (neu Baneli yn achos prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol) yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiectau sydd i law ac yn gwneud argymhellion i'r Awdurdod / Awdurdodau Lleol.
  4. Awdurdod / Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa brosiectau y maent am eu cefnogi
  5. Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad.
  6. Ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais prosiect manwl cam 2
  7. Wedi i'r ceisiadau prosiect manwl cam 2 gael eu derbyn; asesiadau pellach  a gwiriadau diwydrwydd terfynol ar yr ymgeiswyr yn cael eu cwblhau.
  8. Awdurdod Lleol / Awdurdodau yn cadarnhau penderfyniad terfynol ar y cais
  9. Cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu rhyddhau gan y tîm rhanbarthol ar ran Awdurdod / Awdurdodau Lleol.

Bydd yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau yn amrywio yn ôl y broses / trefn bob Awdurdod Lleol. Mae gwybodaeth am yr amserlen a ragwelir ar gyfer pob Awdurdod Lleol ar gael ar eu gwefan.

Wrth gyflwyno cais , byddwch yn awdurdodi’r Cyngor(au) i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu'r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn yr preifatrwydd canlynol (gwefan allanol).

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich cynnig, cysylltwch â’r Awdurdod Lleol/Awdurdodau perthnasol a’r Gronfa Ffyniant a Rennir: Tîm Gogledd Cymru os ydych am gyflwyno prosiect ar draws mwy nag un Ardal Awdurdod Lleol:

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro